Mae nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio i Gyngor Blaenau Gwent wedi cynyddu, yn ôl adroddiad.

Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 19), derbyniodd cynghorwyr yr Adroddiad Iaith Gymraeg blynyddol ar gyfer 2022-23.

Mae’r adroddiad yn dangos sut roedd y Cyngor wedi perfformio yn erbyn gofynion Safonau’r Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf.

Diben Safonau’r Gymraeg yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus megis Cyngor Blaenau Gwent yn cydymffurfio â’u dyletswydd gyfreithiol i beidio â thrin y Gymraeg “yn llai ffafriol” na’r Saesneg.

Mae’n ofyniad cyfreithiol hefyd i gyhoeddi’r adroddiad blynyddol erbyn diwedd mis Mehefin.

‘Darlun sy’n gwella’

“Ar y cyfan, mae’n ddarlun sy’n gwella,” meddai’r Cynghorydd Steve Thomas.

“Mae ffordd gyda ni i fynd, ond rydyn ni wrthi.

“Mae’r data’n dangos bod y Cyngor wedi adnabod 45 aelod o staff o blith 2,959 o staff sy’n rhugl yn y Gymraeg, sy’n gynnydd o 11 aelod o staff o gymharu â ffigurau 2021-22.

“Mae’r cynnydd hwn yn gyson ar draws y Cyngor, gyda ffigurau’n cynyddu ar draws yr holl gyfarwyddiaethau.

“537, neu 18%, yw cyfanswm y staff sydd â sgiliau siarad Cymraeg sy’n amrywio o ‘rhugl’ i ‘eithaf da’ i ‘gymhedrol’ i ’dipyn bach’.

“Mae hyn yn gynnydd o 67 aelod o staff o’r cyfnod adrodd 2021-22.”

Mae nifer aelodau staff y Cyngor sydd heb unrhyw allu i siarad Cymraeg hefyd wedi gostwng o 50% i 45%, meddai’r Cynghorydd Steve Thomas.

“O blith ein hadrannau, Addysg sydd â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg rhugl, gyda 30.”

Dim cwynion, ond lle i wella

Ychwanegodd y Cynghorydd Steve Thomas na fu unrhyw gwynion gan y cyhoedd, ond fod Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnal ymchwiliad i’r Cyngor.

Mae’r adroddiad yn dangos bod Swyddfa’r Comisiynydd wedi canfod meysydd i’w gwella ar wefan y Cyngor, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a’r angen am bolisi iaith Gymraeg mewnol.

Dywedodd y Cynghorydd Haydn Trollope, yr Aelod dros Wasanaethau Cymdeithasol, y bu’n rhan o banel cyfweld yn ddiweddar mewn ysgol lle gwnaeth pedwar ymgeisydd grybwyll y Gymraeg fel rhan o’u cyflwyniadau yn eu cyfweliadau.

“Roedden nhw’n teimlo bod y Gymraeg mor bwysig, ac rwy’n falch o weld hynny,” meddai.

Diffyg athrawon sy’n rhugl

Fe wnaeth y Cynghorydd John Morgan, yr Aelod dros Adfywio, godi pryderon am ddiffyg athrawon sy’n siarad Cymraeg yn rhugl ym Mlaenau Gwent, a’r angen i gynyddu’r niferoedd hyn.

“Mae prinder enfawr o athrawon Cymraeg ar gyfer ysgolion uwchradd; mae’n ymddangos fel pe bai un ymgeisydd ar gyfer tair allan o bedair swydd sydd ar gael ar hyn o bryd.

“Mae hyn yn rywbeth allai ein bwrw oddi ar ein hechel heb fod bai arnom ni.”

Cymeradwyo’r adroddiad

“Mae yna brinder, ac mae angen i ni sicrhau bod y myfyrwyr hynny’n dod drwy’r system,” meddai Luisa Munro-Morris, y Cyfarwyddwr Addysg dros dro.

“Rydym yn cydweithio’n agos â cholegau yn Abertawe a Chaerdydd ar hyn, ac yn eu cefnogi gyda’u hymgyrchoedd recriwtio.”

Fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo’r adroddiad, sydd wedi bod ar gael i’r cyhoedd ers Mehefin 30.