Mae pwyntiau gwefru beiciau trydan wedi cael eu gosod yng nghanolfan beicio mynydd Coed y Brenin ger Dolgellau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gosod 16 pwynt gwefru am ddim ar gyfer defnyddwyr e-feiciau yn y ganolfan, sy’n denu 180,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae e-feiciau yn dod yn fwy poblogaidd ac yn cyfrif am tua un o bob 20 beic sy’n cael ei werthu yn y DU.

Mae’r pwyntiau gwefru yn rhai 13 amp ac mae socedi a chloeon sy’n gwrthsefyll y tywydd ar gael o Beics Brenin, sy’n cynnig gwasanaeth llogi beiciau ar y safle.

Mae Llwybr 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n rhedeg mewn rhannau rhwng Bangor ac Abergwaun, yn mynd trwy Goed y Brenin a bydd y pwyntiau gwefru hefyd ar gael i rai sy’n defnyddio’r llwybr hwnnw.

Beic trydan

‘Croesawu e-feicwyr’

Dywedodd Andy Braund, swyddog cymorth technegol CNC ar gyfer beicio mynydd yng ngogledd orllewin Cymru:

“Rydym yn gweld nifer y defnyddwyr e-feiciau sy’n ymweld â Choed y Brenin yn cynyddu ac mae gofalu bod eu beiciau yn cael eu gwefru yn ffactor bwysig pan fyddant yn penderfynu ble byddant yn mynd.

“Mae darparu pwyntiau gwefru yn agor y posibiliadau i bobl a fyddai, cyn hynny, wedi gweld llwybrau’r safle yn rhy heriol yn gorfforol ar gyfer beicio, neu i rai â phroblemau iechyd neu anabledd.

“Mae hefyd yn caniatáu i bobl feicio yn hytrach na gyrru i’r safle, gan helpu i feithrin ymweliadau a thwristiaeth gynaliadwy a charbon isel.

“Mae hwn yn ychwanegiad newydd ardderchog i seilwaith beicio Coed y Brenin ac yn dangos ein hymrwymiad i groesawu e-feicwyr a’u helpu i fwynhau mwy ar ein rhwydwaith ardderchog o lwybrau.

“Mae’r gwaith hwn hefyd yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau ehangach i sicrhau bod byd natur, pobl a chymunedau yn cael eu hailgysylltu.”

Mae nifer o lwybrau beicio mynydd yng Nghoed y Brenin ac maen nhw’n amrywio o lwybrau hawdd i rai eithafol.