Mae arweinydd Cyngor Ynys Môn wedi dweud ei bod eisiau gweld ‘gwir fomentwm’ gan y corff niwclear newydd Great British Nuclear (GBN), ynghyd a chadarnhad ac amserlen o ran datblygu pwerdy niwclear newydd ar safle’r Wylfa.

Fe fu’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Diogelwch Ynni a Net Sero, Grant Shapps AS, yn amlinellu cynlluniau “uchelgeisiol” ar gyfer y rhaglen niwclear wrth lansio GBN yn swyddogol ddoe (dydd Mawrth, 18 Gorffennaf).

Yn ôl Grant Shapps fe fydd GBN yn “sbarduno twf” mewn pwerdai ynni niwclear newydd yn y DU “ar raddfa a chyflymder digynsail”. Dywedodd y byddai hyn yn hybu diogelwch ynni’r DU, yn lleihau dibyniaeth ar fewnforion tanwydd ffosil, yn creu mwy o bŵer fforddiadwy ac yn tyfu’r economi. Amcangyfrifir y bydd y diwydiant niwclear yn cynhyrchu tua £6 biliwn i economi’r DU, meddai.

Y gobaith yw y bydd y corff yn sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cynhyrchu hyd at 24GW o ynni niwclear erbyn 2050.

‘Cadarnhad’

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gobeithio y daw ag “eglurdeb a chadarnhad” ar gyfer datblygiadau niwclear yn y DU, gan gynnwys datblygu pwerdy niwclear newydd ar safle’r Wylfa, ger Cemaes.

Mae safle’r Wylfa yn cael ei ystyried fel y safle gorau ar gyfer datblygiad niwclear newydd, meddai’r cyngor.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r deilydd portffolio Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Llinos Medi: “Mae cymunedau gogledd yr Ynys yn dal i deimlo’r boen o benderfyniad Horizon Nuclear Power i dynnu nôl o brosiect Wylfa Newydd yn 2020. Yn y cyfamser hefyd, mae ein cymunedau wedi teimlo effaith y pandemig, cyflogwyr allweddol megis Two Sisters yn gadael yr Ynys ac o ganlyniad cholli swyddi ynghyd a data’r cyfrifiad sydd yn dangos fod ein poblogaeth yn heneiddio.”

Ychwanegodd: “Fel Ynys, a chymunedau’r gogledd yn benodol, rydym yn awyddus gweld gwir fomentwm nawr gan y corff yma a chadarnhad ac amserlen o ran datblygiad yn cymryd lle ar safle’r Wylfa. Byddai hyn yn galluogi ni, fel Cyngor Sir, i gynllunio gyda hyder a sicrwydd wrth edrych tua’r dyfodol a gweithio tuag at sicrhau ffyniant i’n cymunedau a’r rhanbarth yn ehangach. Byddai datblygu’r Wylfa yn helpu i sicrhau fod y Deyrnas Unedig yn cwrdd â’r targed o gynhyrchu hyd at 24GW o bŵer niwclear erbyn 2050.”

‘Cyd-weithio’

Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Sir, Dylan J Williams: “Rydym yn awyddus iawn i gyd-weithio gyda Great British Nuclear yn y dyfodol. Ein nod yw defnyddio’r arbenigedd a’r ddealltwriaeth sydd eisoes yn bodoli o fewn Rhaglen Ynys Ynni’r Cyngor Sir i sicrhau datblygiad ar safle’r Wylfa, boed hynny yn ddatblygiad graddfa GW neu fodiwlar, yn gwireddu buddion trawsnewidiol i’r Ynys.”

“Byddai’n rhaid i hyn gynnwys swyddi a chyfleoedd cadwyn gyflenwi ar hyd oes y prosiect a’r sicrhad bod yr holl rinweddau sy’n gwneud yr Ynys a’i chymunedau mor unigryw yn cael eu cydnabod a’u hamddiffyn.”

Trawsfynydd

Fel rhan r lansiad GBN fe fu’r Aelod Seneddol Ceidwadol Virginia Crosbie yn ymweld ag atomfa Trawsfynydd i amlygu potensial y safle.

Meddai Virginia Crosbie: “Mae gogledd Cymru yn cynnig llawer o gyfleoedd i fod yn rhan o gyflawni agenda niwclear y DU.

“Fel rhan o hyn, byddaf yn cynnal sawl digwyddiad fel rhan o wythnos niwclear yn San Steffan ym mis Medi i wneud fy ngorau i yrru hyn yn ei flaen a dod â swyddi niwclear a buddsoddiad i Ynys Môn a rhanbarth gogledd Cymru.”