Mae dynes o’r Unol Daleithiau wedi cael ei hysbrydoli i ddysgu Cymraeg oherwydd ei chysylltiadau teuluol â Chymru.

Mae Catherine Halverson yn dod o Michigan ac wedi cael gwybod erioed fod ganddi wreiddiau Cymreig. Ond daeth yn ymwybodol o’r Gymraeg am y tro cyntaf pan aeth hi a’i mam ar wyliau i ymweld â llefydd oedd yn gysylltiedig â’r Brenin Arthur.

Yn ystod y daith, aethon nhw i Gernyw a Chymru. Tra roedden nhw yng Nghymru, gwelodd Catherine lyfrau dwyieithog wnaeth ennyn ei diddordeb; roedd un o’r tywyswyr hefyd yn siaradwr Cymraeg.

“Ar ôl dychwelyd i’r Unol Daleithiau, nes i barhau i ymddiddori yn yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ac yna wnes i ddod ar draws Say Something in Welsh (SSiW),” meddai.

“Dw i wedi defnyddio’r ap yn aml ers hynny, yn ogystal â Duolingo, sydd hefyd yn llawer o hwyl.”

Yna, yn gynharach eleni, dechreuodd hi gwrs ar-lein gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, trwy ei darparwr Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei arwain gan Goleg Cambria a Popeth Cymraeg.

“Ro’n i’n meddwl y byddai’n dda cael cwrs efo mwy o strwythur oedd yn dod â’r pethau sylfaenol oeddwn i wedi’u dysgu, yn eithaf ad-hoc, at ei gilydd,” meddai.

“Dw i’n ymuno â’r dosbarth ar ddydd Mawrth a dydd Iau am 4 y bore yma yn yr Unol Daleithiau a dw i’n ei fwynhau’n fawr.

“Dw i’n gobeithio teithio i Gymru yn y blynyddoedd nesaf i dreulio amser yn crwydro a dysgu mwy. Yn y cyfamser, dw i’n hapus bod cymaint o adnoddau gwych ar gael i ddysgu Cymraeg.”

Dysgwyr o bedwar ban byd

“Mae’n wych clywed am bobl fel Catherine, sydd â chymaint o ddiddordeb yng Nghymru, ac mewn dysgu Cymraeg,” meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mae’r mwyafrif helaeth o’n dysgwyr yn byw yng Nghymru, ond mae’r ffaith fod cyrsiau ar gael mewn dosbarthiadau rhithiol yn golygu bod dysgwyr eraill o bedwar ban byd yn gallu ymuno hefyd.

“Mae llawer eisiau dysgu oherwydd cysylltiad teuluol â Chymru – mae eraill yn cael eu denu gan gerddoriaeth Gymraeg a llyfrau am Gymru.

“Bydd cyrsiau newydd ar gyfer dechreuwyr yn dechrau ym mis Medi, gan gynnwys cyrsiau wyneb yn wyneb yn ogystal â rhai mewn dosbarthiadau rhithiol, a rydan ni’n gobeithio croesawu hyd yn oed yn fwy o bobl at y Gymraeg.”

Mae mwy o fanylion am gyrsiau newydd i ddechreuwyr ar gael ar y dudalen yma.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dysgucymraeg.cymru