Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl i gerddwr gael ei ladd mewn gwrthdrawiad gyda char ar yr A468 yng Nghaerffili yn oriau man y bore ma (Dydd Mercher, 19 Gorffennaf).

Bu farw dyn 28 oed yn y fan a’r lle wedi’r gwrthdrawiad tua 1yb rhwng cylchfan Trecenydd a Cedar Tree.

Mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu oedd yn yr ardal ar y pryd gysylltu gyda’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod  2300239513.