Mae Liz Saville Roberts wedi cael ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Dwyfor Meirionnydd yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Bydd yn cynnwys rhannau o sedd bresennol Arfon ynghyd a Llandrillo a Chorwen yn Sir Ddinbych. Mae Arfon yn cael ei chynrychioli gan Hywel Williams ers 2010. Mae Hywel Williams wedi cyhoeddi y bydd yn camu i lawr yn yr etholiad nesaf.

Cafodd Liz Saville Roberts ei dewis yn ddiwrthwynebiad mewn cyfarfod llawn o aelodau’r Blaid yng Nghaernarfon nos Fawrth (18 Gorffennaf).

Dywedodd Liz Saville Roberts ei bod yn “anrhydedd” cael ei dewis.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i aelodau’r blaid yn Nwyfor a Meirionnydd am roi eu ffydd ynof unwaith eto, ac i aelodau Arfon ac Edeirnion am fy newis fel eu hymgeisydd seneddol newydd.

“Drwy gydol y broses ddewis, fe’i gwneuthum yn flaenoriaeth i estyn allan at gymaint o aelodau’r blaid â phosibl ac rwy’n ddiolchgar i bawb a ddaeth i’r ddau gyfarfod dewis yn Llanuwchllyn a Chaernarfon.

Teyrnged i Hywel Williams

Ychwanegodd Liz Saville Roberts: “Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i Hywel Williams am ei wasanaeth diflino, ei dosturi a’i ddynoliaeth. Bydd wedi gwasanaethu pobl Arfon a chyn hynny, Caernarfon, yn ddiwyd am 24 mlynedd.

“Wrth i ni baratoi ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf mae’n hollbwysig bod Plaid Cymru yn dychwelyd tîm cryf o ASau i San Steffan; i barhau i ddwyn llywodraeth y DU i gyfrif dros bwerau i Gymru, methiant llwyr Brexit, a sut mae’r undeb anghyfartal hwn yn parhau i wasanaethu Cymru mor wael.

“Edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau ac ymgyrchwyr Plaid Cymru ar hyd a lled yr etholaeth newydd i adeiladu ar ein llwyddiant ar draws Gwynedd a chadw Dwyfor Meirionnydd yn yr etholiad cyffredinol nesaf.”

Cefndir

Liz Saville Roberts yw Aelod Seneddol benywaidd cyntaf y Blaid, yn cynrychioli Dwyfor Meirionnydd ers 2015 ac yn arweinydd y Blaid yn San Steffan ers 2017. Sicrhaodd y bleidlais uchaf erioed i’r Blaid mewn etholiad cyffredinol y ganrif hon yn 2019.

Cyn dod yn AS, bu’n Gynghorydd Sir dros Forfa Nefyn ar Gyngor Gwynedd (2004-2015). Cafodd ei phenodi i’r Cyfrin Gyngor yn 2019.

‘Profiadol’

Dywedodd Aelod Senedd Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian:  “Pryd bynnag y daw etholiad ar gyfer y Senedd yn Llundain, mi fydd gennym ymgeisydd heb ei hail ar gyfer y sedd newydd. Dyma berson profiadol tu hwnt sy’n gwbl ymroddedig i’r ardal hon ag i’r achos dros annibyniaeth i Gymru.

“Gan fod rhan orllewinol Arfon yn ymuno â’r sedd newydd yn San Steffan, fe fydd y ddwy ohonom yn cydweithio er lles ein trigolion yn Nyffryn Nantlle, Caernarfon, Llanberis a’r cylch a rhan eang o’r hen Wyrfai. Edrychaf ymlaen at gefnogi Liz yn ei hymgyrch ag at weithio efo hi dros y blynyddoedd i ddod.”