Mae Heddlu’r Met wedi ymddiheuro i deulu’r ditectif preifat o Gymru, Daniel Morgan, a gafodd ei lofruddio yn 1987.
Mae’r llu wedi dod i gytundeb gyda’i deulu ac wedi cydnabod eu bod yn gyfrifol am fethiannau yn yr ymchwiliad i’w farwolaeth.
Cafwyd hyd i gorff Daniel Morgan gyda bwyell yn ei ben mewn maes parcio tafarn yn Sydenham yn ne ddwyrain Llundain.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu’r Met, Syr Mark Rowley bod teulu Daniel Morgan “wedi cael eu siomi droeon” ers i’r ymchwiliad ddechrau, a bod hynny’n “anfaddeuol”.
Ychwanegodd bod yr achos wedi’i amharu gan “lygredd, anghymhwysedd proffesiynol, ac amddiffynoldeb”.
Cafodd y teulu “addewidion gwag a gobaith ffug” wrth i bum ymchwiliad fethu, meddai Syr Mark Rowley, gan ychwanegu bod y llu wedi “blaenoriaethu ei enw da ar draul tryloywder ac effeithiolrwydd.”
Methiannau
Nid oes unrhyw un wedi eu cael yn euog o ladd y tad i ddau o Gwmbrân, ac ers hynny mae pum ymchwiliad wedi eu cynnal a chwest. Amcangyfrifir bod y gost yn fwy na £40m.
Yn 2021, roedd panel annibynnol wedi dod i’r casgliad bod Heddlu’r Met wedi ceisio cuddio eu methiannau dro ar ôl tro er mwyn gwarchod ei enw da a bod y llu yn “llygredig yn sefydliadol.”
Oherwydd hyn, roedd hi’n annhebygol y byddai unrhyw un yn cael eu dwyn i gyfrif, meddai’r panel.
Dywedodd datganiad y comisiynydd ynghylch y setliad gyda’r teulu na all geiriau wneud yn iawn am “y boen a’r dioddefaint sydd wedi bod yn rhan o fywydau’r teulu am fwy na thri degawd, wrth iddyn nhw frwydro am gyfiawnder.”
Ychwanegodd bod eu hymgyrchu diflino wedi “datgelu methiannau lu a systemig” o fewn y llu, a bod eu ffydd mewn plismona wedi’i erydu.
Mae’r teulu wedi dweud eu bod wedi dod i setliad sy’n “foddhaol i’r ddwy ochr”.
Nid yw telerau’r setliad wedi cael eu datgelu.