Mae Plaid Cymru’n galw ar Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, i bwyso ar Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, tros gyfyngu cymorth trwy brawf moddion i ddau blentyn cyntaf teuluoedd yn unig.
Yn ôl y Blaid, mae’r polisi’n amddifadu plant o’u hawliau dynol o ran safon byw, iechyd a’u datblygiad.
Mae’r uchafswm o ddau blentyn yn cyfyngu ar y lwfans plant o ran Credyd Cynhwysol a chredyd treth (gwerth hyd at £3,235 y flwyddyn) i ddau blentyn cyntaf teuluoedd, oni bai bod y plant wedi’u geni cyn mis Ebrill 2017, pan gafodd y polisi ei gyflwyno.
Caiff teuluoedd mawr, ac aelwydydd ethnig lleiafrifol, eu heffeithio’n anghymesur gan y polisi, medd Plaid Cymru.
Mae’r cap yn effeithio ar bron i 19,000 o deuluoedd yng Nghymru, ac mae Plaid Cymru’n dweud y byddai ei ddileu yn golygu £3,235 ychwanegol y plentyn bob blwyddyn.
Mae Cymru ymhlith y rhannau o’r Deyrnas Unedig lle mae tlodi plant ar ei waethaf, ac mae’n effeithio ar fwy nag un ym mhob pedwar o blant.
‘Creulon’
Daw’r alwad gan Hywel Williams, llefarydd gwaith a phensiynau Plaid Cymru, a Luke Fletcher, eu llefarydd ar yr economi.
“Ar adeg pan fo’r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau enfawr ar aelwydydd incwm isel, mae’n destun edifeirwch na fydd arweinydd eich plaid hyd yn oed yn cymryd y camau lleiaf i ddileu rhwystrau i gefnogi plant mewn tlodi,” meddai’r ddau yn eu llythyr.
“Byddai dileu’r terfyn o ddau blentyn yn costio £1.3bn, ond mae amcangyfrif fod tlodi plant yn y Deyrnas Unedig yn costio bron i £40bn y flwyddyn i wasanaethau cyhoeddus.
“Mae’r cap yn effeithio ar bron i 19,000 o deuluoedd yng Nghymru yn unig, a byddai ei ddileu yn werth £3,235 ychwanegol y plentyn bob blwyddyn.
“Byddai’r newid hwn yn arbennig o bwysig yng Nghymru, o ystyried bod gennym rai o’r cyfraddau tlodi plant uchaf yn y Deyrnas Unedig, gyda thros un ym mhob pedwar o blant yn byw mewn tlodi.
“Rydym yn cytuno â Chomisiynydd Plant Cymru, oedd wedi disgrifio’r polisi fel un creulon ac sy’n effeithio ar blant drwy “eu hamddifadu o’u hawliau dynol i safon byw da, iechyd a datblygiad.
“Yn y gorffennol, fe fu Llywodraeth Cymru, yn gwbl gyfiawn, yn feirniadol o’r terfyn dau blentyn ar gyfer torri’r cysylltiad rhwng angen a hawl, ac rydych chi a gweinidogion Cymreig eraill wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu’r polisi.
“Er mwyn cysondeb os nad unrhyw beth arall, mae Plaid Cymru’n eich annog i barhau i gymryd safiad clir ar y mater hwn.
“Mae chwe blynedd ers cyflwyno’r terfyn dau blentyn, ac rydym yn gobeithio’n fawr eich bod chi’n dal i rannu ein huchelgais er mwyn sicrhau nad ydyn ni’n cyrraedd y saith mlynedd.
“Peidiwch ag amddifadu plant Cymru drwy barhau i wrthwynebu’r terfyn o ddau blentyn, a defnyddiwch eich safle o fewn y Blaid Lafur i bwyso ar arweinydd eich plaid i wneud yr un fath.”
Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud sylw.