Coetiroedd a chymunedau yng Nghwm Elan a Pharc Cenedlaethol Eryri yw’r diweddaraf i elwa ar raglen grantiau amgylcheddol Llywodraeth Cymru.

Bydd grant o £247,194 yn sefydlu Coedwig Law Geltaidd Cwm Elan ar safleoedd i’r de o Langurig ac i’r gogledd o Lanymddyfri, gan ddiogelu’r dirwedd yno sy’n gartref i adar, gloÿnnod byw a phryfed prin.

Yn y gogledd orllewin, mae’r prosiect ‘Datblygu Parc y Moch’, sy’n cael ei redeg gan Gwmni Buddsoddi Cymunedol Parc y Moch, hefyd wedi derbyn £76,326 gan y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG).

Bydd y cyllid yn helpu i drawsnewid Parc y Moch, coetir oddi ar yr A5 ger Bethesda yn Nyffryn Ogwen, yn ganolfan gweithgareddau awyr agored a lles.

Daw’r cyfanswm o £323,520, o’r Grant Buddsoddi mewn Coetir sy’n cael ei redeg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Ehangu Coedwig Glaw Celtaidd Cwm Elan

Ym Mhowys, mae Dŵr Cymru wedi derbyn £247,194 i redeg prosiect ‘Ehangu Coedwig Glaw Celtaidd Cwm Elan- Cam 1’ mewn partneriaeth ag RSPB Cymru.

Caiff Coedwig Glaw Celtaidd ei diffinio gan y Woodland Trust fel “cynefin hynod brin y credir ei fod dan fwy o fygythiad na’r goedwig law drofannol”.

Bydd cyllid TWIG yn gweld llwybr coetir newydd gyda mynediad hawdd a byrddau gwybodaeth yn cael eu creu i annog ymwelwyr lleol i archwilio’r ardal a chynyddu eu dealltwriaeth o’u hamgylchfyd.

Yn ogystal, bydd ardal addysg awyr agored bwrpasol gyda mynediad hawdd ar gyfer rhedeg sesiynau ar gyfer ysgolion lleol a grwpiau ieuenctid.

Caiff ysgubor ar y safle ei ddefnyddio fel canolfan weithgareddau, a bydd man eistedd awyr agored naturiol yn cael ei chreu ar gyfer gweithgareddau adrodd straeon a sgiliau goroesi yn y gwyllt, i helpu ymwelwyr i ddatblygu mwy o gysylltiad â natur.

Datblygu Parc y Moch

Yn rhan o’r prosiect ‘Datblygu Parc y Moch’, bydd y safle’n cael ei drawsnewid yn ofod coetir i bawb, yn enwedig pobol nad ydyn nhw’n mynd allan i natur nac yn ymgysylltu â nhw ar hyn o bryd.

Drwy wella llwybrau troed ar y safle ac ychwanegu meinciau a byrddau gwybodaeth, bydd mwy o bobol yn gallu cyrraedd y coetir a gwneud y gorau ohono.

Bydd grant TWIG yn talu am welliannau i waliau ffin ac yn adfywio ardal y gwlyptir i hybu bioamrywiaeth y coetir.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y safle yn cynnwys gwella’r fynedfa gyda giât bren i’w gwneud yn fwy croesawgar, a gosod rac beiciau i annog beicio ym Mharc y Moch.

Gan adeiladu ar weithgareddau cymunedol sydd wedi bod yn digwydd ar y safle ers 2021, bydd diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd a hyfforddiant a digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal, gan gynnwys sesiynau ar sut i wneud siarcol i helpu i ariannu’r prosiect yn y dyfodol.

‘Blaenoriaeth allweddol’

“Fel rhan o’n rhaglen y Goedwig Genedlaethol, bydd y prosiectau hyn yn helpu i adfer a chynnal rhai o goetiroedd hynafol anadferadwy Cymru, a fydd ymhen amser yn ffurfio rhwydwaith cysylltiedig sy’n rhedeg ledled Cymru, gan ddod â manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn eu sgîl,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.

Dywed Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru fod “ariannu prosiectau treftadaeth naturiol sy’n helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd a chefnogi adferiad natur yn flaenoriaeth allweddol i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru”.

“Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) – sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn un o’r ffyrdd yr ydym yn cyflawni’r amcan hwn,” meddai.

“O greu coetiroedd newydd ac adfer eraill, bydd y grantiau hyn hefyd yn cyfrannu at fenter Coedwig Genedlaethol Cymru, yn gwella’r gallu i addasu i’r argyfwng hinsawdd ac yn dod â manteision iechyd uniongyrchol i’r bobol a’r cymunedau dan sylw.”