Mae’r Athro Elan Closs Stephens, cadeirydd dros dro’r BBC, yn dweud bod y Gorfforaeth dan “bwysau enfawr” i enwi Huw Edwards fel y cyflwynydd oedd wedi talu person ifanc am luniau rhywiol.
Daw ei sylwadau wrth iddi fod gerbron pwyllgor seneddol heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 11) i drafod y modd y gwnaeth y Gorfforaeth ymdrin â’r sefyllfa yn dilyn cwynion am ymddygiad y cyflwynydd blaenllaw.
Dyma’r tro cyntaf i benaethiaid y BBC siarad yn gyhoeddus am y mater, ac mae cwestiynau i’w hateb o hyd ynghylch y modd yr aethon nhw ati i ymchwilio i’r honiadau ac ynghylch eu trefniadau llywodraethiant.
Y pwyllgor a’u rôl
Rôl pwyllgorau dethol Tŷ’r Arglwyddi yw craffu ac ymchwilio i’r llywodraeth a pholisi cyhoeddus, cyfreithiau arfaethedig a meysydd bywyd cyhoeddus eraill.
Y Pwyllgor Cyfathrebu a Digidol sy’n holi penaethiaid y BBC ar y mater hwn, a hynny mewn cyfarfod cyhoeddus.
Y disgwyl yw y bydd y pwyllgor yn cyhoeddi adroddiad ac yn gwneud argymhellion ar ôl iddyn nhw glywed tystiolaeth.
Yn ôl yr Athro Elan Closs Stephens, roedd gan y BBC “ddyletswydd i weithredu’n llonydd ac yn rhesymegol wrth wynebu diffyg rhesymeg a diffyg llonyddwch”, ond dyletswydd hefyd i ofalu am Huw Edwards ei hun, y person ifanc a’r teulu dan sylw.
Doedd dim modd ateb llawer o gwestiynau yn syth wedi’r honiadau, meddai.
Cafodd ei holi yn ystod y sesiwn a fyddai wedi bod yn “ddefnyddiol” pe bai’r cyhoedd wedi cael gweld gwaith y BBC wrth ymchwilio er mwyn sicrhau atebolrwydd.
Wrth ateb, dywedodd y cadeirydd dros dro fod oddeutu 40 o newyddiadurwyr wedi cael eu gwahodd i gyfarfod Zoom, a’i bod hi wedi rhoi gwybod iddyn nhw am y sefyllfa.
“Yn anffodus, wnaeth yr un papur newydd adrodd ar hynny,” meddai, a hynny gan fod eu sylw wedi’i hoelio ar “lygad y storm fel nad oedd yr un ohonyn nhw wedi siarad am y math o atebolrwydd roeddwn i wedi bod yn siarad amdano”.
Annibyniaeth y BBC
Dywed yr Athro Elan Closs Stephens ei bod hi wedi siarad â Lucy Frazer, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, fel rhywun oedd â’r hawl i leisio barn ar y mater.
“Ond dydy barn ddim yn gyfarwyddyd,” meddai, gan fynnu bod annibyniaeth y BBC yn hanfodol.
Yn ystod y sesiwn, dywedodd Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, fod “hanes y diwydiant” yn rheswm i boeni, a bod angen i’r Gorfforaeth “fod yn wyliadwrus ynghylch cam-drin gan bobol mewn swyddi pwerus”.
Ond fe wnaeth e ganmol cod ymddygiad y BBC wrth fynd i’r afael â sefyllfaoedd fel hyn.