Mae’r cynlluniau ar gyfer datblygiad tai yn Llandudoch wedi cael eu tynnu’n ôl, yn dilyn pryderon gan grŵp cymunedol y gallai fod wedi troi’n ail gartrefi neu’n llety gwyliau.
Cafodd y cais i adeiladu pymtheg o gartrefi o fathau gwahanol, a gwaith cysylltiedig gan gynnwys mynedfa newydd, ei wneud gan Enzo’s Estates.
Roedd yr ymgeisydd wedi dweud cyn hyn fod egwyddor y datblygiad preswyl ar y safle wedi’i sefydlu drwy amlinelliad o ganiatâd blaenorol gafodd ei gymeradwyo yn 2006, a chaniatâd materion wedi’u cadw yn ddiweddarach yn 2010.
Mae’r cais, oedd i’w ystyried gan gynllunwyr Cyngor Sir Penfro, bellach wedi cael ei dynnu’n ôl yn dilyn gwerthusiad gan swyddog cynllunio.
Dywedodd y gwerthusiad fod y cynllun arfaethedig yn gwrthdaro â pholisïau Cymru’r Dyfodol a Chynlluniau Datblygu Lleol, ymhlith eraill, ac y byddai’n arwain at “effeithiau bioamrywiaeth andwyol yn groes i’r dyletswyddau sydd wedi’u gosod ar yr awdurdod cynllunio lleol gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac na fyddai’n cyfrannu’n bositif tuag at sicrhau datblygiad cynaliadwy”.
Cefndir a phryderon
Fe wnaeth cyngor lleol Llandudoch drafod y cais ym mis Ebrill, gan gytuno’n unfrydol i’w wrthwynebu.
Roedd y pryderon gafodd eu codi’n cynnwys y ffaith nad yw’r datblygiad arfaethedig yn bodloni anghenion tair lleol, a phryderon amgylcheddol yn cynnwys draenio tir.
Fe wnaeth deiseb ar change.org yn erbyn y datblygiad arfaethedig gan y grŵp cymunedol Llandudoch Yfory ddenu bron i 1,000 o lofnodion.
“Mae cymuned Llandudoch ar hyn o bryd yn wynebu bygythiad sylweddol gan ddatblygiad tai posib ar y cae ger Green Meadow ar Stryd y Peilot,” meddai Llandudoch Yfory yn ddiweddar.”
Dywedodd nad yw’r cais yn dangos “unrhyw fwriad i ddarparu tai fforddiadwy”.
“Mae Llandudoch Yfory yn credu bod y cais hwn yn annerbyniol, ac nad yw’n adlewyrchu anghenion yr ardal leol,” meddai.
“Mae Green Meadow yn dir glas gwerthfawr y dylid ei gadw a’i ddatblygu mewn modd meddylgar er lles cymuned y pentref.”
Mae’r ddeiseb hefyd yn honni bod y preswylfeydd arfaethedig newydd “o faint ac o bris nad yw’n ateb anghenion ein cymuned”.
Mae’n codi pryderon y gallai eiddo newydd ddod yn ail gartrefi’n neu’n llety gwyliau, ac y gallai hynny gael “effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg a’r diwylliant”.
Roedd y cais sydd bellach wedi’i dynnu’n ôl, ond a oedd o blaid y datblygiad, yn dweud y gellid ystyried y safle o fewn safle’r setliad yn safle ‘ffawdelw’ fyddai’n ‘gwneud cyfraniad pwysig i fodloni’r cyflenwad tai’.”