Mae’r dywarchen gyntaf wedi’i thorri ar safle ysgol newydd yn Nyffryn Aeron, ac mae’r gwaith adeiladu bellach ar waith.

Cafodd seremoni ei chynnal yr wythnos ddiwethaf (dydd Llun, Gorffennaf 10) i nodi dechrau’r gwaith hwn, gyda chynghorwyr, swyddogion, disgyblion o’r ysgolion lleol a’r contractwyr yn bresennol ar y safle ger Felin-fach.

Bydd yr ysgol ardal newydd yn darparu cyfleusterau a chyfarpar modern o’r radd flaenaf ar gyfer disgyblion oedran cynradd sydd ar hyn o bryd yn mynychu ysgolion Ciliau Parc, Felin-fach a Dihewyd.

Bydd yr adeilad yn addas ar gyfer 210 o ddisgyblion, gyda chapasiti ychwanegol ar gyfer darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, yr iaith Gymraeg a darpariaeth cyn-ysgol, ynghyd â chae chwaraeon 3G gyda llifoleuadau.

Addysg yng nghefn gwlad

Yn ôl Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, mae’r ysgol newydd yn cynnig cyfle i fuddsoddi mewn addysg cefn gwlad, ac i gydweithio â chontractwyr.

“Pleser yw bod ar safle’r ysgol newydd i nodi dechrau’r gwaith adeiladu trwy dorri’r dywarchen gyntaf,” meddai annerch y criw oedd yn bresennol ar y safle.

“Dyma brosiect cyffrous i bobol ardal Dyffryn Aeron, a chyfle gwych i fuddsoddi mewn addysg yng nghefn gwlad.

“Edrychwn ymlaen yn awr at barhau i weithio gyda’r contractwyr Wynne Construction i sicrhau cyfleusterau o’r radd flaenaf i ddisgyblion yr ardal.”

Braint

Roedd yn fraint i’r Cynghorydd Wyn Thomas dorri’r dywarchen, meddai, ac mae’n gweld addysg yn ffynnu yno o ganlyniad i’r ysgol.

“Braint yw cael torri’r dywarchen gyntaf heddiw a nodi dechrau’r gwaith adeiladu ar gyfer yr ysgol newydd hon,” meddai.

“Bydd yr ysgol ardal hon yn cyfoethogi profiad dysgu ac addysgu’r gymuned leol, ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith yn dwyn ffrwyth.”

Mae’r adeilad wedi’i ddylunio i fodloni Safonau Rhagoriaeth BREEAM, ac fe fydd yn cael ei adeiladu gan gwmni Wynne Construction.

Bydd yr ysgol hefyd yn adeilad Sero Net Carbon wrth fanteisio ar bympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar.

Bydd yr ysgol £16.3m hon yn cael ei hariannu 70% trwy Gynllun Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.