Bydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys yn gadael ei swydd ar ddiwedd y mis yma.

Mae Dr Caroline Turner wedi bod yn absennol o’r gwaith ers mis Mawrth yn sgil salwch.

Bydd Jack Straw yn parhau fel Prif Weithredwr dros dro nes i benodiad parhaol gael ei wneud, a bydd y Cyngor yn dechrau ar y broses recriwtio am Brif Weithredwr newydd ar unwaith.

“Mae wedi bod yn anrhydedd cael gweithioi Gyngor Sir Powys dros y pedair blynedd diwethaf,” meddai.

“Rwyf wedi mwynhau dod i adnabod y Cynghorwyr, staff ar draws yr holl Wasanaethau, a gweithio gyda’n partneriaid i gyflenwi gwasanaethau.

“Mae Powys yn Sir brydferth ac amrywiol, ac roedd cael teithio ar hyd a lled y Sir yn fonws ychwanegol wrth i mi ymweld â phob cornel o’r Sir.

“Byddaf yn gweld eisiau Cyngor Powys ond byddaf yn parhau i ymweld â’r Sir yn rheolaidd.”

Ymateb

“Ymunodd Caroline â Chyngor Sir Powys ym mis Chwefror 2019 yn ystod cyfnod anodd iawn i’r Cyngor,” meddai’r Cynghorydd James Gibson-Watt, arweinydd y Cyngor.

“Gwelwyd gwelliannau dros y pedair blynedd diwethaf mewn sawl maes o ran rhedeg a darparu Gwasanaethau’r Cyngor, a chafodd hynny ei gydnabod gan Estyn ac Arolygaeth Gofal Cymru.

“Arweiniodd Caroline ymateb y Cyngor i’r heriau a ddaeth yn sgil Covid o 2020 ymlaen, gan sicrhau fod gwasanaethau’n parhau i gael eu cyflenwi oddi fewn i gyfyngiadau rheolau’r cyfnod clo.”

Un sydd wedi bod yn cydweithio â Dr Caroline Turner yw Bev Baynham, cadeirydd y Cyngor.

“… Byddaf yn gweld eisiau ei chefnogaeth a’i chyfarwyddyd yn ystod fy ail dymor fel cadeirydd y Cyngor,” meddai.

“Dymunaf yn dda iddi wrth iddi barhau i wella o Covid Hir.”