Mae’r alwad i ddatganoli dŵr wedi’i chefnogi gan y Senedd, yn dilyn trafodaeth gafodd ei harwain gan Delyth Jewell, llefarydd Newid Hinsawdd Plaid Cymru, ddoe (Mehefin 7).
Daw hyn wedi i’r pŵer dros bolisi dŵr gael ei drosglwyddo i Gymru yn wreiddiol o dan Ddeddf Cymru 2017.
Fodd bynnag, fe wnaeth cais rhyddid gwybodaeth gan Blaid Cymru ddatgelu bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn yn 2018 am gael gohirio’r cynlluniau tan 2022.
Ymysg y rheiny ddangosodd eu cefnogaeth yn ystod y drafodaeth yn y Senedd roedd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.
“Er na fyddem wedi geirio’r cynnig heddiw yn y termau sydd gan Blaid Cymru yn union, byddwn yn cefnogi cynnig yr wrthblaid yn llwyr, gan hefyd ychwanegu cyfres o gamau gweithredol yr ydym yn meddwl y gallen nhw gyflawni’r hyn sydd y tu ôl i’r cynnig,” meddai.
“Felly, cytunaf yn llwyr y dylai Cymru gael rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr.”
‘Effaith andwyol’
Fodd bynnag, bu i rai o’r Ceidwadwyr Cymreig – gan gynnwys Janet Finch-Saunders – ddatgan eu gwrthwynebiad gan honni na fyddai ond yn arwain at “ymateb llai effeithiol i’n hargyfwng dŵr”
“Y ffordd rwy’n ei weld, mae’n eithaf clir: mae’r hyn mae Plaid Cymru a Llafur yn galw amdano yn hynod gymhleth a gallai gael effaith andwyol ar Gymru,” meddai.
Mae Delyth Jewell, ar y llaw arall, wedi croesawu’r gefnogaeth gan ddweud bod y “neges o Gymru yn glir”.
“Mae’r weithred yma wedi bod ar gael i ni ers 2017 ond fe wnaeth Llywodraeth Cymru ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ofyn iddyn nhw oedi’r broses o drosglwyddo pwerau chwe blynedd yn ôl,” meddai.
“Mae’r amser wedi cyrraedd am newid: er mwyn sicrhau bod ein biliau dŵr yn sefydlog, i lendid ein hafonydd cael ei sicrhau, ac i adnodd naturiol mwyaf helaeth Cymru i gael ei ddefnyddio er lles cymunedau’r wlad.”
‘Briwsion’
Mae cefnogwyr y cynllun yn credu y byddai datganoli dŵr yn rhoi hwb ariannol sylweddol i economi Cymru.
Ond yn ôl Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru, mae’r cyfan yn “annigonol”.
“Mae hyn yn digwydd trwy’r amser, on’d yw e,” meddai wrth golwg360.
“Roedd y Senedd yn unfrydol am gael gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi, a wnaeth yr ysgrifennydd gwladol ar y pryd jest dweud ‘Na’.
“Mae’r Senedd wedi bod yn unfrydol am bethau eraill hefyd, ac wedi gofyn amdanyn nhw gan San Steffan ac yna mae San Steffan wedi jest dweud ‘Na’.”
Er bod siawns y gallai dŵr gael ei ddatganoli i Gymru yn y dyfodol agos, dywed mai “briwsion” yn unig fyddai hyn.
“Dw i’n credu efallai gawn ni ddŵr wedi ei ddatganoli, roedd o ar y gweill ta beth, ond dw i’n credu ei fod o’n bwysig gwneud y pwynt mai briwsion yw’r rhain,” meddai.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.