Mae Peredur Owen Griffiths wedi galw am fwy o gefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
Daeth yr alwad gan yr Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.
A hithau’n Wythnos Gofalwyr, mae’n gyfle i dynnu sylw at gyfraniad gofalwyr i’r gymdeithas ehangach.
Fe fu hefyd yn siarad â gofalwyr ifanc yn ystod sesiwn gafodd ei threfnu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i dynnu sylw at y problemau a’r heriau sy’n eu hwynebu, gan gynnwys diffyg dealltwriaeth gan athrawon.
“Mae ymchwil diweddar wedi datgelu bod tua 450,000 o bobol yn darparu gofal neu gymorth di-dâl yng Nghymru,” meddai wrth annerch y Prif Weinidog Mark Drakeford.
“Mae’r cyfraniad hwnnw, a anwyd allan o gariad ac anwyldeb tuag at deulu a ffrindiau, yn anodd ei feintioli.
“Mae’n deg dweud bod y cyfraniad hwn i’n cymuned yn aruthrol, ac mae’n anodd dychmygu lle fydden ni heb ofalwyr di-dâl.
“Mae Plaid Cymru yn cydnabod y cyfraniad anhygoel yma wrth i ni nodi Wythnos Gofalwyr.”
Iechyd yn dioddef
“Canfu’r adroddiad a ddatgelodd yr ystadegyn syfrdanol hwn hefyd fod 35% o’r gofalwyr a holwyd yn dweud bod eu hiechyd a’u lles wedi bod yn dioddef o ganlyniad i ofalu,” meddai Peredur Owen Griffiths wedyn.
“Rwy’n nodi, yn eich ateb yn gynharach ac yn natganiad y Llywodraeth yr wythnos hon, am gyllid ar gyfer seibiant gofalwyr a seibiannau byr.
“O ystyried bod mwy na thraean o ofalwyr di-dâl yn dioddef, a ydych chi’n hyderus bod y cyllid yn mynd yn ddigon pell ac y bydd yn cael ei ddefnyddio’n ddigon effeithlon?”
Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford fod “mwy y gellid ei wneud bob amser pe bai cyllid pellach ar gael gennym”.