Mae angen ymdrech genedlaethol i gefnogi plant sy’n colli’r ysgol yn rheolaidd, yn ôl Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru.

Mae hynny’n golygu un ym mhob pump o blant, yn ôl ymchwil ddiweddar.

Mae canllawiau drafft newydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad, i gefnogi ymdrechion ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol i wella lefelau presenoldeb mewn ysgolion.

Cyn y pandemig, roedd cynnydd graddol mewn lefelau presenoldeb mewn ysgolion, ond mae’r ffigurau presenoldeb cyffredinol wedi gostwng yn sylweddol ers y pandemig.

Ym mlwyddyn ysgol 2018/19, 5.7% oedd y ffigwr absenoldeb cyffredinol.

Hyd yma, mae’r data dros dro ar gyfer y flwyddyn ysgol 2022-23 yn dangos bod hyn wedi codi i 10.5%.

Mae lefelau absenoldeb cyson ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi dyblu – a mwy – o 8.4% o ddisgyblion yn 2018/19 i 18.8% o ddisgyblion yn 2022-23 hyd yma.

Ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn holi barn am y diffiniad cyfredol o absenoldeb ‘cyson’, sy’n cael ei ddiffinio ar hyn o bryd fel mwy nag 20%.

Yn aml, caiff y mesur hwn ei bennu fel trothwy ar gyfer mathau penodol o ymyrraeth, er enghraifft mewnbwn gan y Gwasanaeth Lles Addysg.

Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried a fyddai gostwng y trothwy ar gyfer ymyrraeth yn cefnogi teuluoedd yn well.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd y mesurau canlynol eu cymryd hefyd:

  • £6.5m ar gyfer blwyddyn ariannol 23-24 ar gyfer mwy o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd er mwyn sefydlu cysylltiadau cadarnhaol gyda theuluoedd, a darparu canllawiau a gwybodaeth glir ar lefelau presenoldeb da
  • £2.5m ar gyfer blwyddyn ariannol 23-24 ar gyfer Swyddogion Lles Addysg er mwyn i’r gwasanaeth allu darparu cymorth yn gynharach, cyn i broblemau waethygu, a hefyd i ddarparu cymorth dwysach i ddysgwyr sy’n absennol yn aml.
  • Diweddaru Fframwaith Presenoldeb Cymru Gyfan
  • Mae Estyn wedi cryfhau eu gofynion adrodd o ran lefelau presenoldeb disgyblion
  • Ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gyhoeddi neu ddarparu eu polisïau presenoldeb
  • Ailgyflwyno Hysbysiadau Cosb Penodedig, ond dim ond pan nad oes dewis arall

Yn ôl Jeremy Miles, dydy’r ffigurau ddim wedi gwella i’r graddau y byddai Llywodraeth Cymru wedi’i ddisgwyl ar ôl y pandemig.

‘Blaenoriaeth genedlaethol’

“Mae angen ymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n parhau o ran presenoldeb,” meddai.

“Mae’n rhaid ystyried gwella lefelau presenoldeb mewn ysgolion fel blaenoriaeth genedlaethol.

“Rydyn ni’n gwybod bod yna resymau o bob math dros absenoldeb dysgwyr, a bod hyn wedi’i waethygu ymhellach dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae yna gysylltiad hirsefydledig rhwng presenoldeb, cyrhaeddiad a lles.

“Fy mlaenoriaeth i, uwchlaw popeth arall, yw gwneud yn siŵr bod pob person ifanc yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial.

“Mae mynd i’r afael ag absenoldeb dysgwyr yn allweddol i hyn.

“Mae ysgolion yn gwneud gwaith ardderchog, ond allan nhw ddim gwneud hyn ar eu pen eu hunain.

“Mae angen i ddysgwyr fynychu’r ysgol, gweld eu ffrindiau a dysgu yn y dosbarth.

“Mae hyn yn hollbwysig i’w lles, eu haddysg a’u dyfodol.

“Dylai rhieni a gofalwyr fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod eu plant yn yr ysgol.

“Dyna’r ffordd orau o roi’r dechrau mewn bywyd a’r dyfodol y maen nhw’n ei haeddu.

“Fe fyddwn i’n pwyso ar deuluoedd, ysgolion a’r partïon perthnasol i ddweud eu dweud er mwyn helpu i lywio’r canllawiau pwysig hyn rydyn ni wedi’u cyhoeddi.”