Mae gan Gymru dros £500m o gyllid sydd angen ei wario erbyn diwedd y flwyddyn, neu fe allai gael ei golli, yn ôl adroddiad newydd gan Archwilio Cymru.

Mae’r adroddiad yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru bron i £650m o gyllid grantiau gan yr Undeb Ewropeaidd ar ôl i’w wario cyn diwedd 2023.

Er i’r holl gyllid gael ei glustnodi i brosiectau gwahanol, roedd £504m dros ben ar ddiwedd mis Mawrth eleni.

Mae’r cyllid sydd ar ôl yn cynnwys £446m ar gyfer y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a £58m ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig.

Bydd cyllid grant Cymru gan yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ben oherwydd Brexit.

‘Swm syfrdanol’

Mae Paul Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, wedi beirniadu’r Llywodraeth gan nodi potensial yr arian “pe bai’n cael ei wario’n gywir”.

“Mae’n syfrdanol fod swm mor anhygoel o arian yn eistedd yng nghoffrau’r Llywodraeth Lafur yn aros i gael ei wario,” meddai.

“Mae angen yr arian hwnnw’n fawr ledled Cymru, a byddai’n cael effaith enfawr pe bai’n cael ei wario’n gywir.

“Mae’r swm enfawr o arian yn cynnwys £446m ar gyfer y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol, y gellid ei ddefnyddio ar nifer o feysydd, megis adeiladu ffyrdd newydd, adfywio stryd fawr Gymru sy’n marw neu osod mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan.

“Gellid gwario’r £58m a glustnodwyd ar gyfer y Rhaglen Datblygu Wledig i helpu ffermwyr, busnesau a sefydliadau allanol eraill sy’n ei chael hi’n anodd.”

‘Ymrwymiad calonogol’

Dywed Adrian Crompton, pennaeth Archwilio Cymru, fod Llywodraeth Cymru bellach yn wynebu’r her o wario’r arian.

“Dw i ddim yn diystyru’r her o geisio gwneud y mwyaf o gyllid yr Undeb Ewropeaidd sy’n weddill,” meddai, gan ychwanegu bod diffyg gwario’r arian yn golygu ei golli.

“Ond fe fyddai glanio i’r cyfeiriad arall yn golygu bil sylweddol posib i Lywodraeth Cymru.

“Er gwaethaf amgylchiadau anodd, mae’n galonogol gweld bod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo holl gyllid yr Undeb Ewropeaidd a bod trywydd cadarnhaol ar gyfer gwariant rhaglenni.

“Mae angen cynnal y cynnydd hwnnw tra hefyd yn rheoli risgiau sylweddol a sicrhau gwerth am arian.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw am “wneud y mwyaf” o’r cyllid dros ben.

“Rydym yn nodi sylwadau Audit Wales a byddwn yn ystyried yr adroddiad yn llawn wrth i ni barhau i flaenoriaethu’r dasg o wneud y mwyaf o’r buddion llawn o’r cyllid sydd ar gael,” meddai llefarydd.