Bydd teulu o Rostryfan ger Caernarfon yn dod ynghyd i gerdded 26 milltir o amgylch yr Wyddfa fis nesaf, er mwyn codi arian at elusen epilepsi.

Catrin Jones, un o drigolion y pentref, sydd wedi trefnu’r daith ar ôl i’w dwy ferch gael diagnosis o epilepsi dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ar ôl i Esmi, sy’n bedair oed, a Nanw, sy’n ddwy, gael diagnosis, roedd eu mam yn teimlo bod yna ddiffyg dealltwriaeth o’r cyflwr.

Aeth hi ati i drefnu’r daith, ac mae criw wedi cyflwyno’u henwau i ymuno â’r teulu i godi arian tuag at Epilepsy Action Cymru.

Byddan nhw’n dechrau yn nhafarn Parc Eryri, cyn cerdded o amgylch yr Wyddfa a gorffen yn ôl yn yr un dafarn.

‘Dw i ddim yn gwybod lle fysa ni wedi cychwyn heb yr elusen’

“Y bwriad ydy codi arian i elusen sydd wedi bod yn reit gefnogol i ni tra rydan ni’n delio efo’r diagnosis newydd yma,” meddai Catrin Jones wrth golwg360.

“Ar ben hynny, fe fydd ambell un arall fydd yn cerdded efo ni efo epilepsi eu hunain.

“Felly mae o jest yn elusen sy’n agos i galonnau lot yng Nghymru.

“Yn fwy na dim, maen nhw wedi bod yn glust i wrando pan doedden ni ddim yn siŵr iawn be’ oedd yn mynd ymlaen.

“Mae ganddyn nhw rywbeth newydd nawr lle maen nhw’n darparu gwasanaethau cwnsela i bobol sydd efo epilepsi ac i rieni neu unrhyw fath o ofalwyr.

“Mae hwnna wedi bod yn reit fuddiol.

“Ac maen nhw hefyd wedi cyfeirio ni at asiantaethau sydd yn gallu helpu ni a sicrhau ein bod ni’n gofyn y cwestiynau iawn wrth yr arbenigwyr pan oedden ni’n mynd i weld nhw i ddechrau.

“Maen nhw wedi cyfeirio ni at bob math o bethau.

“Dw i ddim yn gwybod lle fysa ni wedi cychwyn hebddyn nhw.

“Os dw i’n bod yn hollol onest doedd gennai ddim gwybodaeth am Epilepsi cyn i hyn i gyd ddigwydd.”

Poen meddwl

Cafodd Esmi a Nanw ddiagnosis flwyddyn union ar wahân, a bu’n dipyn o boen meddwl iddi hi â’i gŵr, Matthew, meddai Catrin Jones.

“Yn amlwg, dydy o ddim yn neis gweld dy blant yn cael trawiadau.

“Ti jest yn poeni, ‘Ydyn ni’n mynd i ffeindio’r feddygaeth iawn sy’n mynd i stopio nhw rhag cael rhai?’

“A phoeni am y newidiadau sy’n mynd i fod yn eu bywydau nhw o gymharu â phlant eraill.

“Mae bod oddi wrthyn nhw yn reit anodd ar hyn o bryd.

“Rydan ni wedi dod i gydweithio’n dda efo’r ysgol ac mae gennym ni berthynas da ofnadwy efo nhw.

“Maen nhw wedi bod yn ofnadwy o gefnogol.”

Diffyg dealltwriaeth am Epilepsi

Nod y daith, yn ogystal â chodi arian, yw codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o’r cyflwr.

“Mae’r diffyg dealltwriaeth am Epilepsi yn anodd credu i ddweud y gwir,” meddai Catrin Jones.

“Dw i wedi cael pobol yn rhoi sylwadau hollol hurt fel i roi rhywbeth yn eu ceg tra maen nhw’n cael trawiad, pan yn amlwg dyna ydy’r peth gwaethaf fyswn i’n gallu gwneud.

“Mae yna’n bendant diffyg dealltwriaeth am y mathau gwahanol o’r cyflwr hefyd, a sut i ofalu am rywun pan mae’r rhai yna’n digwydd.”

Cyfle i rannu profiadau a theimladau

Mae’r teulu’n gobeithio codi dros £1,000 i’r elusen dros y mis nesaf, gan obeithio bydd yr arian yn helpu parhad yr elusen.

“Rydan ni’n full gear efo ymarfer at y daith rŵan,” meddai Catrin Jones.

“Mae teulu agosaf ni wedi bod yn ofnadwy o dda efo ni, ac mae o’n neis gweld bod nhw eisiau codi ymwybyddiaeth a chymryd rhan yn y digwyddiad.

“Yn fwy na oll, wrth gwrs mae codi arian ar gyfer yr elusen yn hollbwysig ar gyfer ei barhad, ond y bwriad pennaf sydd gennyf tu ôl i’r daith yw codi ymwybyddiaeth a chael amser i herio golygfeydd ystrydebol sydd yn parhau i gwmpasu epilepsi.

“Bydd y daith yn rhoi cyfle i bawb rannu eu profiadau a siarad am eu teimladau.

“Byddai unrhyw gyfraniad yn cael ei werthfawrogi yn fawr.”