Roedd gan Efrog Newydd yr ansawdd aer gwaethaf yn y byd ddydd Mercher (Mehefin 8) wrth i fwg o danau gwyllt Canada lifo i’r ardal, yn ôl IQAir.
Mae’r awdurdodau yn annog pobol i wisgo mwgwd, ac mae pob gweithgaredd awyr agored i blant ysgol wedi eu hatal wrth i’r awyr droi’n oren niwlog.
Un sydd yn byw yn nhalaith Washington DC, lle mae’r effaith i’w gweld, yw’r newyddiadurwr Maxine Hughes.
“Maen nhw newydd newid y rhybudd o goch i borffor,” meddai wrth golwg360.
Mae côd piws yn golygu bod ansawdd yr aer yn afiach iawn, a’r cyngor yw i bawb aros dan do gymaint â phosib, a gwisgo masgiau os ydyn nhw’n gorfod mynd allan.
“Ddoe, doedd y plant ddim yn cael chwarae tu allan yn ystod y dydd yn yr ysgol, ac yn gorfod chwarae tu mewn,” meddai Maxine Hughes wedyn.
“Nawr, mae pawb yn gorfod aros tu mewn felly does neb rili’n cerdded y strydoedd.
“Ond dwyt ti ddim eisiau cerdded o gwmpas ynddo fo, achos ti’n gwybod dydy o ddim yn iach.
“Ti’n gallu mynd i dy waith, ond mae’n rhaid i bawb wisgo mwgwd fel y rhai roedden ni’n gwisgo yn ystod Covid.
“Ond mae’n rhyfedd achos mae o fel Covid eto efo’r mygydau o’r adeg yna.
“Mae’r Ubers yn rili drud heddiw hefyd, achos bod yna ymchwydd o bobol yn eu defnyddio nhw.
“Maen nhw’n cau’r parciau hefyd i wneud yn siŵr fod pobol ddim yn chwarae tu allan, achos ar hyn o bryd yn Washington, mae pob parc â pharc sblash i blant chwarae yn y dŵr.
“Felly maen nhw’n trio’u troi nhw ffwrdd.”
‘Afiach’
Mae oglau tân yn yr awyr, meddai Maxine Hughes, gan ychwanegu bod hynny’n “afiach”.
“Os ti’n edrych allan, dwyt ti ddim yn gallu gweld yr awyr.
“Mae’n edrych fel tân a mwg melyn yn yr awyr.
“Ac os wyt ti’n edrych dros y bont o un ochr – o Arlington mewn i DC – ti ddim yn gallu gweld dros y bont.
“Does dim byd ti’n gallu gwneud yn y tŷ – dim ond cadw’r ffenestri a drysau ar gau.
“Mae e ym mhob man.
“Mae’n gyfnod rhyfedd iawn.”
‘Risg newydd’
I deulu Maxine Hughes yng Nghaliffornia, dydy hyn ddim yn broblem newydd.
“Mae’n rhywbeth mae pobol yng Nghaliffornia yn gorfod dioddef bob blwyddyn,” meddai.
“Mae gennyf i deulu sy’n byw yn Oregon, a phob blwyddyn maen nhw’n gorfod gadael y tŷ, weithiau am bythefnos neu dair wythnos, achos bod yna gymaint o fwg o’r tanau gwyllt yng Nghaliffornia.
“Mae o’n rywbeth, yn anffodus, yn America rydan ni’n gorfod byw trwyddo rŵan.
“Jest fel arfer, dydy o ddim yn digwydd ar ochr yma’r wlad, ond yn amlwg mae o wedi dechrau yng Nghanada rŵan hefyd, felly mae o’n risg newydd.”
Y plant yn dysgu am newid hinsawdd
Er gwaetha’r sefyllfa, mae Maxine Hughes yn gweld cyfle i blant ddysgu am newid hinsawdd.
“Mae’r plant yn deall achos maen nhw wedi siarad amdano fe yn yr ysgol ac wedi gorfod deall pam dydyn nhw ddim yn cael mynd allan i chwarae,” meddai.
“Ond maen nhw’n mynd i’r ysgol lle maen nhw’n gwneud lot am newid hinsawdd yn barod, felly maen nhw’n trafod lot gyda nhw amdano fe.
“Mae o’n gyfle iddyn nhw siarad mwy am newid hinsawdd rili.”
Cipolwg ar beth sy’n digwydd yn yr Unol Daleithiau
Pam fod yr awyr yn oren yn yr Unol Daleithiau?
Mae tanau gwyllt ledled Canada wedi gorfodi dros 20,000 o bobol i adael eu cartrefi Mae tua 11,400 o’r bobol yma yn dod o ardaloedd anghysbell yng ngogledd Quebec, a chafodd 4,000 yn rhagor wybod y gallai gwacáu fod ar fin digwydd. Mae miliynau o bobol yn yr Unol Daleithiau wedi bod o dan rybuddion ansawdd aer wrth i fwg o’r tanau gwyllt symud dros y ffin. Ond pam ei fod o’n oren? Mae’r awyr wedi troi’n oren tywyll mewn llawer o ardaloedd oherwydd bod mwg yn blocio lliwiau â thonfeddi byrrach, fel glas, melyn a gwyrdd, gan adael lliwiau â thonfeddi hirach, fel coch ac oren, i basio drwodd.
Beth achosodd y tanau?
Roedd rhai tanau wedi’u hachosi gan fellten yn gynharach y mis yma, ac mae taleithiau Canada – Alberta, Nova Scotia a Quebec – wedi profi’r record gwres uchaf erioed eleni, gyda sychder yn effeithio ar rai rhannau o ranbarth Iwerydd y wlad. Mae lle i gredu bod 400 o danau yn parhau i losgi ledled Canada, gyda 246 ohonyn nhw allan o reolaeth a 154 o’r rheiny yn Quebec – y dalaith yn union sydd yn syth i’r gogledd o Efrog Newydd. Mae disgwyl i’r niwl aros yn ardal Efrog Newydd tan o leiaf ddydd Gwener, yn ôl rhagolwg AccuWeather, er nad yw’n glir a fydd ansawdd yr aer cynddrwg erbyn hynny.
Ydi’r mwg yn beryglus i iechyd pobol?
Gall y llygryddion aer fod yn beryglus, a gall achosi cur pen, llygaid llidiog, anhawster anadlu, poenau yn y frest, blinder a llid y gwddf. Gall symptomau waethygu mewn unigolion â phroblemau iechyd fel asthma, clefyd yr ysgyfaint neu glefyd y galon. Mae pobol hŷn, plant a phobol imiwnoataliedig mewn mwy o berygl.
Am ba hyd mae disgwyl i’r mwg barhau?
Mae disgwyl i’r niwl aros yn ardal Efrog Newydd tan o leiaf ddydd Gwener, yn ôl rhagolwg AccuWeather, er nad yw’n glir a fydd ansawdd yr aer cynddrwg erbyn hynny.