Mae teulu o Wcráin yn teimlo’r cariad dynol gan bobol Cymru ers cael eu noddi gan deulu o Nefyn.
Mae Oleksandra Davydenko yn dod o Wcráin, ac mae hi, ei phartner Roman Nedopaka, a’i mam-yng-nghyfraith Alla Chakir i gyd yn artistiaid sydd wedi derbyn cymorth gan y gymuned leol.
Dysgodd hi wehyddu artistig yn y brifysgol yn Wcráin, ac mae ei phartner a’i fam yntau yn gweithio â phaent olew ac mae’n disgrifio’i gwaith nhw fel “gweithiau Rhufeinig mewn arddull glasurol, realistig”.
“Ers ein dyddiau cyntaf yng Nghymru, rydym wedi cael ein hamgylchynu gan bobol ofalgar, llawn cydymdeimlad sy’n barod i helpu ar unrhyw adeg,” meddai wrth golwg360.
“Mae baneri Wcreineg yn hedfan ar bob cam.
“Dysgais wehyddu artistig yn Wcráin, yn Ysgol y Celfyddydau Addurnol a Chymhwysol.
“Astudiais yno am bedair blynedd, felly dysgais lawer o dechnegau ac arddulliau, ond roeddwn i’n hoffi creu tapestrïau fwyaf.
“Mae’n deimlad diddorol pan fyddwch chi’n creu cynfas o ddim byd y gallwch chi ddarlunio unrhyw beth arno.
“Mae hyn yn wahanol i lun oherwydd bod gwehyddu yn broses arafach; yma, mae’r patrwm yn cael ei greu yn raddol, edau wrth edau.
“Rwy’n hoffi plethu tirweddau, rwy’n hoffi chwarae gyda lliw, gan greu trawsnewidiadau a chyfuniadau diddorol.
“Yn fy ngwaith, rwy’n defnyddio cotwm a gwlân yn bennaf.”
Ysbrydoliaeth o’r pethau syml
Yn ôl Oleksandra Davydenko, mae ei mam-yng-nghyfraith wedi’i hysbrydoli gan y pethau syml mewn bywyd.
“Mae’n paentio tirluniau, bywydau llonydd, portreadau, yn creu cyfansoddiadau genre, ac yn gweithio ar gomisiwn,” meddai.
“Mae wedi ei ysbrydoli gan bethau syml, y gallu i weld cymhlethdod a harddwch mewn gwrthrychau syml … pelydryn lletraws o olau ar y wal neu ychydig o adar y to mewn llwch ar ochr y ffordd, hen wrthrychau wedi’u gorchuddio â phatina ar hen atig mam-gu, cerrig a haul – coed sych ar lan y môr…
“Y cyfan sydd bob amser ar gael i’r llygad, bob amser yn weladwy, ond nid bob amser ar gael i sylwi arno.
“Mae adnabod harddwch weithiau’n llawer anoddach nag edrych arno.
“Mae pob darn o waith yng ngofod celf gyfoes yn creu straeon swreal wedi’u tynnu o freuddwydion a ffantasïau, yn myfyrio ar brofiadau personol, agos-atoch, ac yn trawsnewid ei hagwedd, ei meddyliau, a’i syniadau athronyddol yn iaith paentio.
“Fel awdur, mae’n mynegi ei byd mewnol tawel, clyd a heddychlon, gan daflu goleuni tawel trwy dechneg paentio olew.”
Datblygu gyrfa yng Nghymru
Yn ôl Oleksandra Davydenko, mae gyrfaoedd y tri ohonyn nhw’n datblygu yma yng Nghymru.
“Yma yng Nghymru, rydym wedi cynnal 4 arddangosfa ar y cyd,” meddai.
“Rwyf hefyd yn cynnal dosbarthiadau gwehyddu i ddechreuwyr yn Nefyn ac weithiau gweithdai bach ar Benrhyn Lyn.”
Gyda’r teulu bach wedi ymgartrefu yng nghartref eu noddwyr yn Nefyn, maen nhw’n hoff o’u cynefin newydd a’r teulu sydd wedi eu noddi a’r gymuned ehangach, ac maen nhw’n teimlo’r cariad sydd gan bobol yng Nghymru at bobol Wcráin.
Ac ma hi’n dweud bod eu cartref newydd yn fan da iddyn nhw wneud eu gwaith celf.
“Rydyn ni’n hoffi gogledd Cymru; mae’n brydferth, clyd a heddychlon â chymuned neis iawn,” meddai.
“Yma, dim ond cymorth, gofal a chefnogaeth y gwnaethom ei dderbyn.
“Mae gennym lawer o ffrindiau newydd.
“Ar Fai 5, fe wnaethon ni hedfan i Gymru o dan raglen nawdd Wcráin.
“Penderfynodd ffawd ein bod ni, ar lwybr ein bywyd, wedi cwrdd â phobol fel Yasmin ac Andrew, y bobol hyn wedi cwrdd â ni yng Nghymru fel perthnasau, ac o’r diwrnod cyntaf fe wnaethon nhw ein hamgylchynu â gofal, cariad a chefnogaeth wych;
“Rhoeson nhw eu cartref i ni yn Nefyn ar Fôr Iwerddon, a helpu gyda phopeth oedd ei angen arnom.
“Mae gennym yr holl amodau ar gyfer gwaith; mae’r ystafell wydr wedi troi’n stiwdio gelf, ac mae’r Holiday House neu fel maen nhw’n dweud yma, “ail gartref”, wedi dod yn ail gartref i ni mewn gwirionedd.
“Rydym yn ddiolchgar i’r Deyrnas Unedig a Chymru am yr holl gymorth rydych yn ei roi i deuluoedd Wcráin yn y cyfnod anodd hwn i’r byd i gyd.
“Collon ni ein cartref ond daethom o hyd i ffrindiau go iawn, amddiffyniad, lloches, gobaith a chariad.”