Esyllt Nest Roberts de Lewis o Batagonia fydd Arweinydd Cymru a’r Byd ym Mhrifwyl Llŷn ac Eifionydd eleni.

Yn wreiddiol o Bencaenewydd ym mro’r Eisteddfod eleni, aeth i’r Wladfa ym Mhatagonia yn 2004 i weithio fel athrawes ar Gynllun yr Iaith Gymraeg.

Ymsefydlodd yno ar ôl priodi Cristian, ac mae ganddyn nhw ddau fab, Mabon ac Idris, sydd wrth eu boddau yn ymweld â’r teulu yng Nghymru.

Mae hi’n gweithio fel athrawes Gymraeg, athrawes delyn, cyfieithydd a golygydd.

Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd a Chadair Eisteddfod y Wladfa, ac mae’n mwynhau hyfforddi plant i lefaru a llenydda yn eisteddfodau’r Wladfa a chynnal y diwylliant Cymraeg yno.

Mae’n cyfrannu i gyhoeddiadau yng Nghymru yn sôn am y Wladfa, yr hanes a’r traddodiadau.

Yn ddiweddar, cafodd ei hethol i bwyllgor gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin, sy’n cynnal cysylltiadau rhwng y ddwy wlad, ac mae’n hynod ddiolchgar am waith y gymdeithas yn cefnogi’r Gwladfawyr.

Ystyria’r gwahoddiad hwn i fod yn Arweinydd Cymru a’r Byd ym mro ei mebyd yn fraint o’r mwyaf.

Bydd yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu’r Eisteddfod nos Sul, Awst 6 yn y Pafiliwn Mawr, ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan.