Gobaith artist sydd yn rhan o gyfres newydd o arddangosfeydd yw y bydd yn cynnig “gobaith a rhyddhad”.
Mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn lansio cyfres newydd o arddangosfeydd yn Oriel Ysbyty Gwynedd fis yma.
Mae Oriel Ysbyty Gwynedd wedi ei sefydlu ers 2012, ac mae’n cynnig ffenest siop i dalent celfyddydol Gwynedd a chyfle i bobol Gwynedd fwynhau profiad celfyddydol mewn lleoliad all fod yn llawn emosiynau amrywiol.
Mae gwaith Femke Van Gent yn ystod y pandemig i’w weld ar wal gelf gyhoeddus Storiel ym Mangor, sef enfys a dwy Wraig Gymreig.
Yn y gorffennol, mae hi wedi bod yn darlunio deunydd addysgol ar gyfer sefydliadau amgylcheddol yn yr Iseldiroedd a Chymru, fel Cyfoeth Naturiol Cymru a Menter Môn.
Mae modd gweld ei gwaith ar ddau fwrdd gwybodaeth yn Ynys Eglwys ym Mhorthaethwy.
Mae Oriel Ysbyty Gwynedd wedi rhoi llwyfan i artistiaid lleol arddangos eu gwaith yng nghyntedd yr ysbyty ers blynyddoedd, i’w fwynhau gan ymwelwyr a staff.
Bydd Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn gosod arddangosfa gynta’r artist Femke Van Gent, fydd yn dod â delweddau o debotau, cymylau, draenogod, tafarn fywiog, pobol yn dawnsio a llawer mwy.
Ei nod fydd gwneud i bobol wenu a llenwi eu calonnau.
“Gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o obaith a rhyddhad i bobl rhag pryderon, os dim ond am ychydig eiliadau,” meddai’r darlunydd ac artist cymdeithasol o’r Iseldiroedd, sy’n byw ym Môn ers ugain mlynedd, wrth golwg360.
“Mae fy ngwaith yn gadarnhaol ac yn gwneud pobol yn hapus.
“Mae’n lliwgar iawn.
“Gwelais ar unwaith fod pobol yn cael eu denu a’i fod yn gwneud iddyn nhw wenu.
“Mae rhai o’r darluniau o lefydd o gwmpas Porthaethwy.
“Rwy wedi tynnu llun Waitrose gyda phobol tu allan yn eistedd ac ar feiciau.
“Rwy’n feiciwr brwd.
“Iseldireg ydw i.
“Mae’n dod gyda le rydw i’n dod.”
Prosiect straeon
Ar y gweill yn yr arddangosfa mae prosiect arall sef Strociau, lle bydd stori person o’r ysbyty yn cael ei darlunio.
“Rydyn ni’n casglu straeon gan y bobol yn yr ysbyty os ydyn nhw’n aros, yn ymweld neu’n gweithio yno,” meddai’r arlunydd.
“Rydw i’n mynd i osod y bwrdd i fyny yn y dderbynfa.
“Rwy’ wedi trefnu hyn gyda’r bobl o’r ysbyty, maen nhw wedi cytuno.
“Yn seiliedig ar y straeon, gwnes i luniad un ohonyn nhw.
“Mae llawer yn digwydd, ac efallai y bydd rhai pobol yn dod o hyd i’w stori yn y llun ar y diwedd.”
Y cyfnod clo
Gydag arddangosfa yn yr ysbyty, mae pethau yn dychwelyd i’r hen drefn cyn Covid erbyn hyn.
Ar lein roedd hi’n gweithio yn bennaf dros y cyfnod clo, meddai.
“Daeth i fod yn wahanol iawn yn ystod y cyfnod clo, fe wnes i bethau ar-lein, fe wnes i rai gweithdai ar-lein gyda phobol.
“Roedd gen i gomisiynau da, felly roeddwn i’n brysur yn defnyddio Zoom i gysylltu â cholegau.
“Roeddwn i’n teimlo fy mod i yn yr ysbyty.
“Croesawyd yr arddangosfa gymaint, roedd pobol yn falch o’i chael.
“Dywedodd rhai staff, ‘Rydym wedi bod yn edrych ymlaen at hyn ers misoedd’.
“Roedd yn werth chweil.”
Taith fel arlunydd
Fel un o deulu artistig, astudiodd seicoleg a’r gwyddorau cymdeithasol yn yr Iseldiroedd, gan barhau i ddarlunio cyn gwneud gradd Celf Gain yn 2002.
Mae celf gymdeithasol yn bwysig iddi.
“Rwy’n ferch i arlunydd,” meddai.
“Mae fy mam yn arlunydd, felly roedden ni bob amser yn chwarae gyda chlai.
“Daeth yn therapydd celf, a dechreuais ymddiddori mewn seicoleg a chelf, ond doeddwn i ddim am wneud yr un peth â mam, felly astudiais seicoleg neu’r gwyddorau cymdeithasol yn gyntaf.
“Fel rhan o fy ngwaith academaidd, rydw i bob amser yn gwneud clawr neis.
“Ar ôl i mi raddio, penderfynais fy mod i eisiau bod yn ddarlunydd.
“Mae fy ngwaith yn ddarluniadol iawn, a chredaf mai dyna sy’n ei wneud yn hawdd mynd ato i’r bobol yn yr ysbyty.
“Mae’n bethau fel pobol yn dawnsio yn y glaw, pethau y bydd pobol yn eu gweld.
“Nid yw’n haniaethol.
“Pan symudais i Gymru yn 2002, doedd dim llawer o waith darlunio ar gael, felly es i i wneud Gradd Celfyddyd Gain yng Ngholeg Menai, a dyna sut y datblygais ochr arall i’r gwaith, sydd ddim yn gymaint yn yr arddangosfa.
“Mae un cabinet gwydr gyda phrosiect o’r enw Perindod Pobol wnaethon ni ddwy flynedd yn ôl.
“Roedd hynny rhwng y cyfnodau clo ac roedd y tu allan.
“Mae’n brosiect braf sy’n fwy o’r gelfyddyd gymdeithasol rydw i’n ei wneud a’r darlunio.”
Beth yw celf gymdeithasol?
I rai pobol, mae celf gymdeithasol yn derm newydd a rhyfedd, yn ôl yr arlunydd.
“Rwy wedi gwneud llawer o brosiectau celf gymdeithasol o amgylch te sydd wedi cael derbyniad da oherwydd bod y bobol yma wrth eu bodd â the,” meddai.
Trwy waith ei phartner y daeth i fyw i Ynys Môn yn wreiddiol, a hynny ugain mlynedd yn ôl, ac mae hi bellach wedi syrthio mewn cariad â’r dirwedd a’r iaith.
“Mae fy mhartner yn fiolegydd morol,” meddai.
“Daethom yma efo’n gilydd.
“Gan fy mod yn ddarlunydd llawrydd, gallaf weithio ym mhobman.
“Do’n i erioed wedi bod i Gymru, a dyma ni’n cyrraedd yn y car, a waw, dyma ni’n stopio, ac roedd mor arw a gwahanol i’r hyn roeddwn i wedi arfer ag e.
“Rwy’ wrth fy modd yma.
“Mwy nag ugain mlynedd yn ddiweddarach, rydw i dal yma.
“Dw i wedi bod yn trio dysgu Cymraeg ond dim digon o gwbl.
“Mae’n brydferth, rwy’ wrth fy modd, mae’n teimlo’n hudol.
“Ar ryw adeg, byddaf yn ei siarad.”
Iechyd a lles trigolion
Croesawodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, y cyfle i weld yr oriel yn ailagor ar ôl y cyfnod clo.
“Credwn fod y celfyddydau yn hanfodol i iechyd a lles trigolion Gwynedd, ac mae’r gofod arddangos yn Ysbyty Gwynedd yn rhan bwysig o hyn,” meddai.
“Yn ystod y pandemig Covid-19 a’r cyfnodau clo dilynol, bu’n rhaid atal yr arddangosfeydd, felly rydym yn falch iawn o fod yn ail-lansio a dod â chelf yn ôl i’r ysbyty fel rhan o’n gwaith i gefnogi llesiant pobol Gwynedd mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.”