Bydd y bardd a’r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn dechrau ar daith gerdded o Gaerdydd i Gaernarfon heddiw (dydd Iau, Mehefin 8).

Yn ystod taith ‘Sha Thre / Am Adra’, bydd yn cynnal gig bob noson yng nghwmni beirdd neu gerddorion lleol er budd achosion lleol.

Rhwng nawr a Gorffennaf 6, bydd 24 gig yn cael eu cynnal mewn tafarndai, clybiau, theatrau, dan henebion ac un mewn capel gydag enwau fel Dewi Prysor, Aneurin Karadog, Elinor Wyn Reynolds a Gwenallt Llwyd Ifan yn ymuno â’r bardd mewn gwahanol drefi.

Bydd yn cael ambell ddiwrnod o orffwys, gan gynnwys dyddiau gemau nesaf tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Armenia a Türkiye.

Ar y daith, bydd Ifor ap Glyn yn galw heibio ambell ysgol a chanolfan hefyd.

‘Am adra’

Yn ogystal â chefnogi achosion lleol ar y daith, mae Ifor ap Glyn, y cyn-Fardd Cenedlaethol, yn awyddus gefnogi gwaith Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac mae’n bosib i bobol sydd yn methu mynd i’r sesiynau nosweithiol gyfrannu ar wefan JustGiving.

“Roedd yn fwriad gen i wneud hyn yn wreiddiol cyn diwedd fy nhymor fel Bardd Cenedlaethol, rhwng 2016 a 2022,” meddai Ifor ap Glyn wrth golwg360.

“Roeddwn i’n lico’r syniad o berfformio mewn llefydd anghyfarwydd fel y Blue Scar Club ym Mhontrhydyfen, neu’r Llusern Hud yn Nhywyn – ond hefyd byddai’n gyfle imi ailymweld â llefydd sydd hefo rhyw arwyddocâd personol i mi.

“Mae Beddgelert, Blaenau, Bermo, Ponthrydfendigaid a Merthyr i gyd hefo cysylltiadau teuluol, er enghraifft – dw i’n fwngral go iawn!

“Mae pawb yn rhoi eu gwasanaeth am ddim, does yna ddim grant na chyllideb i’r peth o gwbl, mae pobol wedi bod tu hwnt o garedig yn rhoi o’u hamser i gefnogi’r fenter.”

Ond mae rheswm arall dros gerdded 270 o filltiroedd o Gaerdydd i Gaernarfon hefyd, fel yr eglura Ifor ap Glyn.

“Enw’r daith yw ‘Sha thre/ Am adra’ gan y bydda’i’n cerdded nes cyrraedd fy nghartre’ yng Nghaernarfon,” meddai.

“Ond mae miliynau o bobol yn cerdded pellterau tebyg ar hyn o bryd: o Syria i Lebanon, o Eritrea i Swdan, neu o Wcráin i Wlad Pwyl, yn y gobaith y bydd cartref iddynt ym mhen y daith.”