Mae Manon Edwards Ahir wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata S4C.

Hi fydd yn arwain y tîm sy’n cynnwys Pennaeth Marchnata newydd, Rebecca Griffiths, a’r Arweinydd Cyfathrebu Gwyddno Dafydd.

Mae Manon Edwards Ahir wedi bod yn gweithio ym maes newyddiaduraeth a chyfathrebu ers dros 25 mlynedd.

Bu’n Bennaeth Cynllunio a Materion Allanol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru’n fwyaf diweddar, ar ôl treulio cyfnod yn Bennaeth Newyddion, Cyfryngau a Digidol Senedd Cymru.

Cyn hynny, bu’n gydberchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr ar yr asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog Mela Media.

Bu’n gweithio hefyd fel newyddiadurwr a chynhyrchydd cyfresi’r BBC ym maes materion tramor, gan arbenigo mewn gwleidyddiaeth.

Roedd yn flaenllaw yn narllediadau etholiadau byw’r BBC yng Nghymru yn ystod y degawd cyntaf ar ôl datganoli hefyd.

“Dw i’n gyffrous iawn i fod yn arwain tîm trawiadol o gyfathrebwyr a marchnatwyr sy’n medru ymgysylltu â’n holl gynulleidfaoedd, ble bynnag y bônt, a sut bynnag maen nhw’n dymuno cyrraedd at yr holl gynnwys hynod amrywiol sydd gan S4C i’w gynnig,” meddai Manon Edwards Ahir.

“Alla i ddim aros i ymuno ag S4C wrth iddi gamu i bennod newydd.”

‘Sicrhau tîm cryf’

Gwyddno Dafydd, yr Arweinydd Cyfathrebu newydd a chyn-Uwch Swyddog y Wasg Prif Weinidog Cymru, fydd yn ei chefnogi.

Yn sgil ei gwaith yn Bennaeth Marchnata, bydd Rebecca Griffiths yn cefnogi Manon Edwards Ahir “i hybu ymgyrch farchnata S4C gartref ac yn fyd-eang”.

Dechreuodd ei gyrfa gyda Tinopolis cyn gweithio i Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae penodiadau newydd eraill yn cynnwys Ryan Chappell, sydd wedi’i benodi i rôl Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol, a Heledd ap Gwynfor sy’n dechrau fel Swyddog Cyfathrebu.

Dywed Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, ei bod hi wrth ei bodd eu bod nhw wedi “sicrhau tîm mewnol mor gryf i arwain strategaeth cyfathrebu a marchnata wrth i ni barhau â’n rhaglen drawsnewid yn S4C”.

“Rwy’n gwybod y bydd y tîm yn gweithio’n ddiflino i hyrwyddo cynnwys gwych y sianel i gynulleidfaoedd ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt,” meddai.