Cipiodd S4C a’r BBC dair gwobr yr un yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2023 yn An Clochán Liath (Dunglow) yr wythnos hon.
Mae’r ŵyl yn hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau’r gwledydd Celtaidd ym myd y cyfryngau, a daeth llwyddiant i Rondo a Boom Cymru, dau gwmni cynhyrchu sy’n creu rhaglenni i’r sianel Gymraeg.
Enillodd Itopia (Boom Cymru) y wobr Rhaglen i Blant, a hithau’n dilyn stori wyddonias ac un o’r prif gymeriadau, Alys, wrth iddi gwestiynu datblygiadau technegol yn ei labordy.
Derbyniodd S4C yr ail wobr yn y categori Adloniant (sgrin) ar gyfer y rhaglen Côr Cymru (Rondo).
Aeth y drydedd wobr yn y categori Ffurf Fer (sgrin) i’r rhaglen Stori Stiwdio: Stori Ghofran (Boom Cymru) sydd yn adrodd stori Ghofran a’i theulu yn ffoi o’r rhyfel yn Syria.
Yn y categori Celfyddydau (Sgrin), daeth Brothers in Dance: Anthony and Kel Matsena (BBC Studios) i’r brig, tra bod y wobr Adloniant (Sain) wedi mynd i Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.
Roedd llwyddiant hefyd i Aberfan: Tip Number 7 (BBC Cymru) yn y categori Hanes (Sain) ac i Gary Speed: 10 Years On (BBC Cymru) yn y categori Chwaraeon (Sain).
Cafodd Ifan Jones Evans, un o gyflwynwyr Radio Cymru, ei enwi’n Gyflwynydd Y Flwyddyn am ei raglen sy’n cael ei chynhyrchu gan Telesgop.
Gŵyl 2024 yn dod i Gaerdydd
“Dwi a’r tîm mor falch bod rhaglenni S4C wedi cael derbyniad mor dda yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, ac wedi dod i’r brig mewn tri chategori cystadleuol,” meddai Llinos Griffin Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C.
“Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth weithio ar y rhaglenni yma a’u llongyfarch yn fawr hefyd.”
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2024, ac mae Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, yn croesawu hynny.
“Rydym yn hynod o falch i allu gwahodd Gŵyl Cyfryngau Celtaidd y flwyddyn nesaf i ddinas hynod gyffrous o fewn y sector greadigol,” meddai.
“Dwi’n gwybod y bydd ’na groeso cynnes i bawb fydd yn ymweld â Chymru ar gyfer yr ŵyl a chyfle i greu ac adeiladu ar bartneriaethau ar draws y gwledydd Celtaidd.
“Llongyfarchiadau i bawb eleni ac edrychwn ymlaen am flwyddyn gynhyrchiol arall i’r diwydiant.”