Daeth cyhoeddiad taw Nia Morais yw ‘Bardd Plant Cymru 2023 – 25’, a phob dymuniad gorau iddi hi yn y rôl gyffrous hon.
Yn wahanol i’r rhan helaeth fu wrthi ers 2000, dydy Nia ddim yn dod o’r ‘Fro Gymraeg’, ac yn hynny o beth dydy hi ddim wedi’i throchi yn niwylliant arfordir y gorllewin, megis eisteddfota a thalyrna.
Dydy hi ddim, felly, yn gyfarwydd fel ‘bardd’ yn yr ystyr traddodiadol Cymraeg a Chymreig, ac efallai taw hynny wnaeth sbarduno’r trafodaethau am ddiffiniadau’r geiriau ‘bardd’, ‘beirdd’, a ‘barddoniaeth’.
Felly dyma brysuro erthygl ar y pwnc hwn fu ar y gweill gen i ers sbel…
Ga’i fod yn fardd plîs?
Sgwennais yn ddiweddar am fy mhrofiadau o snobyddiaeth, wrth gyflwyno fy hun fel ‘bardd’; ces fy herio gymaint nes i mi ‘sidro os oedd gen i hawl i alw fy hun yn fardd?
Bues i ar Dros Ginio (BBC Radio Cymru) i drafod y mater ymhellach, yng nghwmni’r ‘bardd dadleuol’ Aled Jones Williams (ac ydw, dwi’n genfigennus o’i ffugenw fo!).
Pwysleisiais nad ydw i wedi cael ffasiwn drafferth trwy gyfrwng y Saesneg, a chynigais ein bod ni angen terminoleg newydd yn Gymraeg, efallai, i gyfateb i’r geiriau Saesneg poet a poetry.
Yr unig opsiwn arall, hyd y gwelaf i, yw gweithio ar newid y meddylfryd Cymraeg a Chymreig ynglŷn ag ystyr y geiriau ‘bardd’ a ‘barddoniaeth’.
Gwahardd talent
Darllenais â diddordeb y cyfweliad hefo Ness Owen yn ddiweddar, am y ffaith ei bod wedi ennill gwobr farddoniaeth Greenpeace. Yn ddiddorol, dywedodd:
“Mae o’n haws i mi alw fy hun yn poet na bardd,” “Mae o’n meddwl gymaint yn Gymraeg, ond tydi o ddim gymaint yn Saesneg mewn ffordd. I’m not worthy yn Gymraeg.”
Ac fel y gwnes i grybwyll yn fy ngholofn, roedd David R Edwards o’r band Datblygu fel tasa fo’n ofni unrhyw un yn meddwl ei fod yn honni bod yn fardd. Mi wnaeth Dave hefyd grybwyll ‘Talwrn y Beirdd’ ac enw’r Meuryn Ceri Wyn Jones yn ei esboniad, a dwi’n meddwl bod hyn yn rhoi mân cychwyn da i ni gael ystyried yr hyn sydd wrth wraidd yr hollt.
Natur, diffiniad, a maes tra gwahanol?
I mi, a sawl un o’m cyfoedion mae’n siŵr, gweithred greadigol a greddfol yw poetry – cyfle i mi wir fynegi fy hun. Dwi’n mwynhau crwydro creithiau fy nghôf, gan ystyried beth achoswyd a sut fedraf eu lleddfu a’u hiachau. Mae’n fodd i gofnodi storïau fy mywyd.
Mae’r cerddi i mi fy hun yn bennaf, ond braf iawn os yw pobol eraill yn eu mwynhau. Yn y tymor hir, hoffwn feddwl am fy ngherddi fel yr argraff yr wyf wedi ei gwneud ar y bydysawd; ôl fy nhroed ar y traeth, ôl fy mys yn y llwch.
Er fy mod yn sgwennu trwy gyfrwng y Gymraeg, anaml iawn dw i’n sgwennu am y Gymraeg; dw i ddim ychwaith yn dueddol o sgwennu’n drosiadol.
Ond mae ‘barddoniaeth’ i’w weld yn fwy am ddysgu rheolau ac yna cystadlu mewn eisteddfodau ac talyrnau, a gorau oll os fedrwch sgwennu’n drosiadol am yr iaith Gymraeg.
Er y cytunaf fod yna le i hyn oll, nid dyma sy’n fy niddori fi, yn enwedig gan na fedraf fyth wir ffynnu dan amodau cystadleuaeth, a hynny am amrywiaeth o resymau gwahanol.
Bod yn gystadleuol am gelf
Yn y bôn, mae yna ddeuoliaeth yma, o ran sut rydym yn ystyried celf – a bywyd yn gyffredinol.
Dwi’n gwirioni ar gyhoeddi fy ngwaith, gan gynnwys hunangyhoeddi. Dwi’n dwlu ar gyflwyno fy ngwaith i gynulleidfa ‘meic agored’. A dwi gwbl wrth fy modd pan fydd pobol yn cysylltu i ddweud eu bod nhw wedi mwynhau fy ngherddi – a gorau oll os ydyn nhw wedi cael cysur ganddyn nhw.
Un o fy hoff brofiadau’r flwyddyn yma oedd sbïo ar ystafell ddosbarth lle roedd 26 o blant saith oed wrthi’n ‘creu’, a hynny ar ôl i mi fod wrthi’n eu dysgu nhw am alawon a geiriau; roedd pob un ohonyn nhw yn ysgwyd offeryn, neu’n trafod geiriau a pherfformio caneuon – a phob un ohonyn nhw, am eiliad, yn gwenu!
Dyma sut mae ennill yn edrych i mi fel ‘poet’. Mi ddaw clod a bri o gystadlu, ond mae angen medru dod i adnabod eich hunain, a hoffi’r hyn rydych yn ei ddysgu, a bod yn medru rhannu’r broses hefo eraill.
Ymrysona am diffiniadau
Does dim pwynt i mi geisio cystadlu mewn Eisteddfodau – does dim yn mynd i fedru trwsio’r niwed wnaeth salwch a (bur debyg) iatrogensesis wneud i fy ngallu gwybyddol ac addysgol.
Dwi’n cymryd rhan yn ‘Talwrn y Beirdd’, ond mae fy nghamacennu a chystrawen wonky yn drech na fi a fy nhîm.
Ond mae fy meddylfryd niwrowahanol (neurodifferent) yn cynnig persbectifau anghyffredin, ac efallai y byddaf felly yn medru ffynnu wrth gyfrannu at yr ymryson amgen am natur a diffiniad barddoniaeth… ymlaen!