Bydd S4C yn darlledu holl gemau rhagbrofol Cymru ym Mhencampwriaethau UEFA dan 21 am y tro cyntaf.
Fe fydd yr wyth gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2025 yn Slofacia’n cael eu dangos yn fyw ar S4C Clic, sianel YouTube Sgorio a chyfrif Facebook Sgorio gyda sylwebaeth Gymraeg a Saesneg.
Y gêm gyntaf fydd Cymru yn erbyn Denmarc ar Fehefin 20.
Yn ystod yr ymgyrch, fydd yn cael ei chynnal tan Hydref 2024, bydd Cymru hefyd yn herio Lithwania, Gweriniaeth Tsiec a Gwlad yr Iâ.
Ifan Gwilym a Dylan Blain, cyn-chwaraewr Cymru dan 19, fydd yn darparu’r sylwebaeth Gymraeg.
Bydd sylwebaeth Saesneg gan Meilyr Emrys a Marc Williams, cyn-chwaraewr Wrecsam enillodd chwe chap dros Gymru dan 21 gan sgorio dwy gôl.
Ymgyrch ragbrofol yr Ewros fydd ymgyrch gyntaf Matty Jones yn hyfforddwr ar y tîm dan 21.
Mae chwe chwaraewr heb gapiau yn y garfan, gan gynnwys Charlie Crew, fu’n gapten ar y tîm dan 17 yn rowndiau terfynol UEFA Ewro dan 17 yn Hwngari yn ddiweddar.
Ymysg y garfan hefyd mae chwaraewyr profiadol a chyffrous fel Rubin Colwill, sydd ag wyth cap i’r tîm llawn, a Charlie Savage o dîm Manchester United.
‘Braint’
Dywed Marc Williams ei bod hi’n “grêt” bod y gemau dan 21 ar gael yn fyw, a’i bod hi’n “fraint” cael bod yn rhan o’r tîm sylwebu.
“Dw i’n edrych ymlaen i weld tîm Matty Jones ar waith a’r rôl hollbwysig sydd ganddo i’w chwarae wrth ddatblygu chwaraewyr ar gyfer dyfodol pêl-droed Cymru,” meddai.
“Wrth edrych yn ôl ar fy ngyrfa fy hun, roedd cael fy nghapio dan 16 yr holl ffordd drwodd i’r tîm dan 21 yn brofiadau anhygoel a dwi’n hynod falch o’r atgofion yna.
“Beth bynnag yw’r lefel, does dim teimlad i guro canu’r anthem genedlaethol.
“Mae gan yr hogiau yma gyfle mawr i wneud enw i’w hunain a defnyddio’r cyfle i ddangos eu doniau, fel mae cymaint o chwaraewyr drwy’r system Gymreig wedi’i wneud yn ddiweddar.”