“Dydi o ddim amdan yr iaith, mae o amdan fi fel artist,” meddai Sage Todz wrth golwg360 wrth drafod y ffrae sydd wedi torri gyda’r Eisteddfod dros yr wythnos ddiwethaf.

Postiodd y rapiwr dwyieithog o Benygroes neges ar ei dudalen Twitter ddydd Iau (Mehefin 8) yn dweud na fyddai’n ymddangos yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni oherwydd polisi uniaith Gymraeg yr Eisteddfod “oherwydd bod gormod o Saesneg yn caneuon fi”.

Rai blynyddoedd yn ôl, awgrymodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod ar y pryd, fod lle i gyfaddawdu ar y rheol iaith, ac fe fu rhywrai’n galw am gynnwys ieithoedd lleiafrifol eraill yn yr Eisteddfod.

Byddai’n rhaid cael sêl bendith Llys yr Eisteddfod i gyflwyno’r fath newid, meddai llefarydd ar y pryd, ond dydy’r sefyllfa ddim wedi newid.

Ymhlith y rhai sy’n galw am adolygu’r rheolau neu sydd wedi lleisio barn ar y sefyllfa mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, ac mae Izzy Rabey hefyd wedi dweud ar Twitter y bu’n rhaid iddi hi ac Eadyth Crawford newid geiriau eu caneuon er mwyn cael perfformio yn yr Eisteddfod.

Bu Sage Todz perfformio yng Ngŵyl Tawe yn Abertawe ddydd Sadwrn (Mehefin 10), lle bu’n ymhelaethu ar yr hanes mewn cyfweliad arbennig â golwg360.

Ar ôl cael cynnig i fod yn brif artist Gig y Pafiliwn, i berfformio ar Lwyfan y Maes ac ym Maes B, cafodd wybod yn gyntaf na fyddai’n cael perfformio yn y Pafiliwn na Llwyfan y Maes.

Ond cafodd e gynnig ar wahân gan yr Eisteddfod i gael comisiwn i ysgrifennu caneuon Cymraeg newydd ar gyfer sioe Dadeni i gloi’r Eisteddfod.

Ychydig ddiwrnodau yn ôl, rai misoedd ers y cynnig hwnnw, dywedodd Maes B na fyddai’n cael perfformio yno chwaith, meddai.

“Neshi glywed bod problem o ran y polisi iaith ar ôl cael y cynnig i berfformio yn gwneud set efo Dom [Francis] a Lloyd [Lewis],” meddai am y triawd fu’n perfformio’n ddwyieithog ar lwyfan Coleg Gŵyr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

“Neshi glywed bod problem efo’r polisi iaith, a’r unig ffordd i fi berfformio yw un ai newid geiriau Saesneg fi i Gymraeg neu tynnu nhw allan, neu i wneud covers o ganeuon eraill.

“I fi fel artist, mae hynna’n amhosib i fi. Fedra i ddim newid dim byd, a dw i ddim eisiau gwneud karaoke caneuon neb arall, so neshi ddeud ‘Na’.

“Wnaethon nhw dynnu fi off gig y Pafiliwn wedyn, a gig Llwyfan y Maes, i “protectio” fi achos bod efallai rhai pobol wedi cwyno neu fyddai rhai pobol yn anhapus iawn amdan y ffaith bo fi’n rapio’n ddwyieithog.

“Ond wnaethon nhw ddweud wrtha i bod Maes B dal yn hapus i fynd ymlaen, ond geshi alwad ryw ddau ddiwrnod yn ôl yn dweud bo fi allan o Maes B hefyd ag o’n i ddim yn cael perfformio o gwbl yn y Steddfod flwyddyn yma achos y polisi iaith.

“Fysa fod wedi bod yn neis clywed yn gynt, ond dyna ni.”

Y rheol iaith

Yn ôl Sage Todz, mae’n “parchu” rheol iaith yr Eisteddfod, ac mae’n mynnu nad yw’n “protestio” nac yn ceisio newid y rheol.

Ond fel ag y mae’r sefyllfa bresennol, fydd e ddim yn cael perfformio’n ddwyieithog.

“Dydi’r rheol iaith yn ddim byd newydd chwaith, so dw i’n parchu hynna,” meddai.

“Mae canran y bobol yng Nghymru, heb sôn am y byd i gyd, sy’n siarad Cymraeg yn tiny ac mae’n mynd yn llai bob blwyddyn, so dw i’n dallt bod pobol eisiau protectio’r iaith a chadw hi’n agos i’w calonnau nhw, so dw i’n dallt pobol sydd o blaid cadw’r Steddfod yn hollol, hollol Gymraeg.

“Dw i ddim yn protestio, dwi ddim yn trio newid hynna, dw i jyst yn bersonol eisiau perfformio. Os dydi hynny ddim yn gallu gweithio, dw i’n dallt.

“Dydi o ddim amdan yr iaith, mae o amdan fi fel artist.

“Dyna sydd wedi dod allan ohona fi. Mae o amdan y caneuon, mae pob cân yn stori a dwi wedi’i greu o sut mae o fod i gael ei greu os mae hynna’n gwneud sens.

“Mae o fel product sy ar y silff, deud ready meal sy ar y silff, mae o wedi cael ei baratoi a fel’na mae o.”

Oes lle i newid y rheol iaith, ym marn Sage Todz felly?

“Mae’n anodd i fi ddeud, ond dydi o ddim rili am yr iaith, ond bod o’n bwysig i fi wneud o yn Gymraeg a Saesneg a dwyieithog, jyst dyna be’ dw i’n gwneud.

“Mae’n bwysig i fi bo fi’n perfformio, ac wedyn dw i’n deud bod y gerddoriaeth yn Saesneg a Chymraeg achos dyna be’ dw i’n siarad.

“Efallai bydd amser pan dw i’n gwneud cerddoriaeth hollol Gymraeg ac mae caneuon lle dw i’n gwneud o’n hollol Saesneg.

“Os dw i’n dysgu iaith newydd yn y dyfodol, efallai bydd caneuon yn yr iaith yna.

“Mae o amdan y celf ei hun ac yn union beth dw i eisiau’i ddweud a sut dwi eisiau ei ddeud o.

“Fi’n meddwl bod o’n siom bo fi ddim yn cael perfformio, yn bersonol, ond os fydd o’n dewis nhw, dw i ddim ond yn gallu parchu hynna.

“Gobeithio yn y dyfodol gawn ni gael trafodaethau ond os ddim, dw i’n dallt y rheol, so mae digon o lefydd eraill i fi berfformio.”

Y broses

Er mwyn deall y ffrae, mae angen deall sut mae Sage Todz yn mynd ati i gyfansoddi ei ganeuon.

Ydy’r artist yn dewis yr iaith, neu ydy’r iaith yn dewis yr artist, felly?

“Mae’n gallu bod y ddau,” meddai Sage Todz.

“Weithiau dw i’n setio, ‘Reit, dw i eisiau sgrifennu cân amdan hyn yn yr iaith yma’, ond weithiau dw i’n clywed sŵn neu beth bynnag sy’n ysbrydoli fi, a dw i ddim yn rili dewis.

“Dw i’n barely dewis y geiriau, maen nhw jyst yn dod allan ohona fi.”

Colli cyfle?

Fel artist sy’n enedigol o Loegr ond â’i deulu’n hanu o Nigeria, mae Sage Todz wedi’i ddylanwadu gan ddiwylliant rapio ac R’n’B sydd heb fod yn rhan o’r sîn Gymraeg o’r blaen, ac felly mae’n cynnig cerddoriaeth unigryw i’r sîn Gymraeg.

O’i hepgor o rai o’n prif gigs cerddorol, ydy Sage Todz yn teimlo bod cyfle wedi’i golli i symud cerddoriaeth Gymraeg yn ei blaen, ac oes perygl y gallai pobol ifanc o gefndiroedd amlddiwylliannol sy’n siarad Cymraeg deimlo nad oes lle i ran o’u diwylliant a’u hunaniaeth nhw yn yr Eisteddfod?

“Dw i ddim yn gwybod os ydyn nhw’n colli dim byd, ond dw i’n meddwl fysai lot o pobol yn gwerthfawrogi cael gweld fi’n perfformio, a fyswn i’n gwerthfawrogi gallu rhannu be’ dw i’n gwneud efo pobol hefyd, achos mae’n dir newydd o ran does dim pobol yn rapio fel hyn yn Gymraeg,” meddai.

“Mae pobol eisiau cwyno amdan ’does dim digon o Gymraeg, mae gormod o Saesneg’; does neb arall yn gwneud o, jyst fi sy’n gwneud o, so have it or don’t.

“Efallai wneith o roi rhai pobol off, efallai wneith o ddim.

“Ond dw i’n gobeithio fydd pobol yn gallu gweld fi drwy ffyrdd gwahanol a dal teimlo rhyw fath o ysbrydoliaeth.”