Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd wedi’u cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog heno (nos Fawrth, Mehefin 13).

Caiff y Goron ei noddi gan Gangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru, a chaiff y wobr ariannol o £750 ei rhoi gan Deulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy, er cof am Griffith Wynne.

Cafodd y Goron ei chynllunio a’i chynhyrchu gan Elin Mair Roberts.

Caiff ei chyflwyno eleni am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Rhyddid’.

Y beirniaid eleni yw Jason Walford Davies, Elinor Wyn Reynolds a Marged Haycock.

Y Lôn Goed, y llwybr hanesyddol pwysig sy’n ffinio Llŷn ac Eifionydd yw canolbwynt y Goron eleni, a chafodd ei ffiniau eu defnyddio fel sail iddi.

Caiff y gweadau sy’n cael eu gweld yng nghefn gwlad eu hefelychu mewn arian arni, a chaiff cyfoeth tir yr ardal ei gynrychioli yn neunydd gwyrdd y benwisg.

Caiff ffiniau rhwng ffermydd a thiroedd eu cynrychioli, yn ogystal â’r gwrychoedd a’r waliau cerrig gaiff eu gweld yn draddodiadol yn ardaloedd yr Eisteddfod ar y Goron hefyd.

Gwrychoedd sy’n nodweddiadol yn Llŷn a waliau cerrig yn Eifionydd.

Mae ‘ffin’ yn warchodol i fyd amaeth, a’r bwriad oedd amlygu hyn yn y dyluniad.

Ychwanegodd Elin Mair ddarn o’i gemwaith i’r dyluniad hefyd, sef cennin pedr wedi’i wneud o aur melyn 18ct.

Y Gadair

Yn ogystal â’r Goron, mae’r Gadair hefyd wedi’i chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith heno.

Caiff y Gadair ei chyflwyno eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl ‘Llif’.

Y beirniaid yw Cathryn Charnell-White, Karen Owen a Rhys Iorwerth.

Y crefftwr Stephen Faherty sy’n gyfrifol am gynllunio a chreu’r Gadair.

Caiff y Gadair ei noddi gan deulu’r diweddar Dafydd Orwig, addysgwr, arloeswr a chyn-gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd.

Cafodd y Gadair ei llunio eleni o ddarn mawr o goeden dderw gafodd ei phlannu ar ymyl y Lôn Goed dros 200 mlynedd yn ôl.

Cafodd y llwybr chwe milltir o hyd ei anfarwoli yn y gerdd ‘Eifionydd’ gan R Williams Parry.

Chwythodd gwyntoedd cryfion Storm Darwin y goeden gyfan i lawr ym mis Chwefror 2014, a chafodd darn ohoni ei chyflwyno i’r Eisteddfod gan Eifion Williams, Tyddyn Heilyn, pan glywodd fod yr Eisteddfod i’w chynnal yn lleol.

Mae Stephen Faherty yn grefftwr sy’n arbenigo mewn cerflunio, wedi naddu’r gadair, nid ei chreu o ddarnau o dderw, ac mae’n un o’r ychydig rai fydd wedi eu naddu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae’n ddarn arbennig o bren, ac roedd o’n gweddu i’w gerfio i gadair,” meddai.

“Wrth gwrs rydw i wedi gorfod defnyddio llif i dorri’r bonyn yn siâp cadair ond mae’n gadair sydd wedi’i chreu o un darn o bren.

“Fy mwriad o’r cychwyn cyntaf oedd gadael y bonyn i siarad drosto’i hun.

“Mae graen prydferth i’r bonyn ac rydw i am i hwnnw ddod allan a sgleinio.

“Yn bendant bydd yn tynnu’r llygad.”

‘Adlewyrchu Y Lôn Goed mewn ffyrdd gwahanol iawn’

Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd Michael Strain, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, ei bod yn “bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod”.

“Dyma’r cyfle cyntaf i ni weld dwy wobr arbennig sy’n cynrychioli ac adlewyrchu Y Lôn Goed mewn ffyrdd gwahanol iawn,” meddai.

“Mae’r ddwy’n hyfryd o hardd, ac yn destun balchder i ni yma yn Llŷn ac Eifionydd.

“Rwy’n sicr bod pawb ar hyd a lled Cymru, fel ninnau, wedi ein gwefreiddio wrth eu gweld am y tro cyntaf heno.

“Mae heno’n gyfle i ddiolch.

“Rydyn ni’n diolch i Gwynedd Watkin a changen Sir Gaernarfon, Undeb Amaethwyr Cymru a theulu’r diweddar, annwyl Griffith Wynne, Bryn Bodfel, am eu haelioni yn noddi’r Goron a’r wobr ariannol.

“Diolch hefyd i Elin Mair, merch o Y Ffôr, am Goron mor hardd a chain, sy’n adlewyrchu ein hardal mewn ffordd mor hyfryd.

“Ac yna’r Gadair, wedi’i chreu o un darn o fonyn coeden a fu’n tyfu ar Y Lôn Goed am ddwy ganrif.

“Diolch i Eifion Williams am y coedyn, i Stephen Faherty am ei waith ysbrydoledig, ac i Huw Orwig, a dreuliodd ddyddiau lu yn helpu Stephen wrth iddo gwblhau’r gwaith.

“Yn olaf, diolch i deulu Dafydd Orwig, un a wnaeth gymaint o gyfraniad i Wynedd a Chymru, am eu haelioni; i Beryl, Huw, Guto ac Owain am gyflwyno’r Gadair, ac i Siân, Sharon a Non am y wobr ariannol.

“Mae’n anodd credu ein bod ni, o’r diwedd, ar fin nodi mai dim ond hanner cant o ddyddiau sydd i fynd tan y byddwn yn agor y giatiau i Brifwyl Boduan, a hynny ar ôl i ni fod yn gweithio ar y paratoadau ers pedair blynedd.

“Dechreuodd y gwaith ar y Maes ddoe, ac mae ein gwaith ni fel gwirfoddolwyr ar draws y fro yn tynnu tua’r terfyn rŵan – ond ddim tan ein bod ni wedi croesawu pawb atom i Lŷn ac Eifionydd ddechrau Awst.

“Mae yna chwip o Eisteddfod yn ein haros, felly dewch yn llu!”

Caiff seremoni’r Coroni ei chynnal ddydd Llun, Awst 7 am 4.30yp, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener, Awst 11 am 4.30yp yn y Pafiliwn Mawr.