Bydd S4C yn darlledu holl gemau pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru tan 2028, fel rhan o gytundeb newydd mewn partneriaeth â Viaplay.

Bydd y ddarpariaeth Gymraeg yn cynnwys dwy ymgyrch nesaf Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ar gyfer 2024-25 a 2026-27, gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA 2026 a gemau rhagbrofol UEFA Ewro 2028.

Bydd gemau cyfeillgar rhyngwladol Cymru hefyd yn rhan o’r cytundeb hwn, fydd yn gweld o leiaf 40 gêm yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C.

‘Hwb aruthrol i’r iaith Gymraeg’

Yn ôl Aaron Ramsey, capten Cymru, bydd y cytundeb hwn yn “hwb aruthrol i’r iaith Gymraeg”.

“Mae’n newyddion gwych fod y gemau am fod ar gael i bawb ar S4C,” meddai.

“Y nod i ni fel carfan yw cyrraedd rowndiau terfynol yr Ewros a Chwpan y Byd, ac rydym yn gobeithio y bydd S4C yn rhannu ein llwyddiant gyda’r gwylwyr.”

Mae’r cytundeb rhwng y gwasanaeth ffrydio Viaplay ac S4C yn bartneriaeth unigryw fydd yn caniatáu i S4C gael yr hawliau iaith Gymraeg yn ecsgliwsif yn y Deyrnas Unedig i ddarlledu’r gemau am ddim.

Rondo, cynhyrchwyr darllediadau ‘Sgorio Rhyngwladol’ o bêl-droed Cymru ar S4C, fydd yn cynnal y darllediad ar gyfer holl gemau rhyngwladol cartref Cymru.

Daw hyn wrth i’r hawliau i ddarlledu pob un o gemau rhagbrofol Cymru ar gyfer Pencampwriaethau Dan 21 UEFA Ewro 2025 yn Slofacia hefyd gael eu sicrhau gan S4C.

‘S4C yw cartref pêl-droed Cymru’

“Rydym wrth ein boddau ein bod ni’n gallu darlledu gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru ar S4C tan 2028,” meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C.

“Mae hyn yn adeiladu ar y bartneriaeth ragorol sydd gennym eisoes gyda Viaplay, a hoffwn ddiolch iddynt am eu cydweithrediad ar y cytundeb.

“S4C yw cartref pêl-droed Cymru, ac rydym yn falch o sefyll ochr yn ochr â Chymdeithas Pêl-droed Cymru a chefnogwyr brwd y Wal Goch.”

Mae Viaplay hefyd wedi croesawu’r cytundeb.

“Rydym wrth ein boddau i fod yn bartner gydag S4C sydd wedi bod yn gefnogwr anhygoel i bêl-droed Cymru ar hyd y blynyddoedd,” meddai Ed Breeze, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Chwaraeon y Deyrnas Unedig y cwmni.

“Mae gan bêl-droed Cymru gefnogwyr brwd iawn ac rydym ni’n falch o sicrhau bod y gemau hyn sydd mor arwyddocaol yn genedlaethol ar gael i’r gynulleidfa ehangaf posib.”

Yn ôl Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae’r bartneriaeth gydag S4C “wedi bod yn gonglfaen i dwf Y Wal Goch”.

“Rydym yn hapus iawn fod gemau Tîm Cenedlaethol Dynion Cymru am fod ar gael yn rhad ac am ddim i bawb,” meddai.

“Rwyf am ddiolch i Viaplay, sydd wedi bod yn allweddol yn y cydweithio hyn i sicrhau bod ein gemau ar gael i bawb.

“Mae Sian Doyle yn S4C hefyd wedi bod yn ffigwr allweddol wrth drafod y canlyniad positif yma i Gymru.

“Mae hon yn oes aur i Gymru, ac rydym yn falch iawn o allu ei rannu â phawb.”