Mae sioe theatr flynyddol y Mudiad Meithrin yn gallu rhoi cyflwyniad da i’r Gymraeg i rieni a gofalwyr yn ogystal â phlant bach.

Dyna farn un o staff Mudiad Meithrin oedd yng ngofal Gŵyl Dewin a Doti 2023 yng nghanolfan Galeri, Caernarfon heddiw (dydd Gwener, Mehefin 16).

Mae’r ŵyl yn ymweld ag wyth o wahanol leoedd drwy Gymru, a dechreuodd yr wythnos diwethaf yn Llys y Frân, Sir Benfro.

Siani Sionc – sef enw llwyfan y diddanwr Sian Elin o Lanbedr Pont Steffan – sy’n arwain y sioe drwy stori a chân.

“Mae o’n gyfle i ni gyd ddod at ein gilydd, ac yn gyfle i’r Cylchoedd wneud trip ohoni, ac iddyn nhw fod yng nghanol y bwrlwm Cymreig sydd yna,” meddai Delyth Jones, Rheolwr Talaith Gogledd Orllewin y Mudiad Meithrin.

“Mae’r caneuon sy’n cael eu perfformio i gyd yn ganeuon y mae’r Cylchoedd yn eu hadnabod. Maen nhw’n hollol gynhwysol… ac mae o’n agored i unrhyw un.”

Mae oddeutu 90 o Gylchoedd Meithrin, sy’n cael eu rhedeg gan bwyllgor gwirfoddol a staff “ymroddgar”, yn y Gogledd Orllewin, yn ôl Delyth Jones.

Mae dros 400 o Gylchoedd drwy Gymru gyfan ac, yn ôl y Mudiad Meithrin, mae’r Cylchoedd yn rhoi cyfle i’r plant lleiaf ‘ddysgu trwy chwarae mewn awyrgylch positif, cyfeillgar a Chymreig’.

Trochi oedolion fel y plant yn y Gymraeg

Yn ôl Dirprwy Reolwr Marchnata’r Mudiad Meithrin, mae Gŵyl Dewi a Doti yn rhoi cyfle i rieni a gofalwyr di-Gymraeg gael blas go iawn ar yr iaith.

“Mae o’n neis rhoi’r cyfle i unrhyw un o unrhyw gefndir ddod i mewn, i wrando ar y Gymraeg, dysgu ychydig o eiriau Cymraeg, hyd yn oed os nad ydan nhw’n siarad Cymraeg adre,” meddai Helen Mai Lewis, sy’n gweithio yn swyddfa’r Mudiad yn Aberystwyth.

“Mae’r rhieni’n gallu dod, nid dim ond y Cylchoedd, ond dod ar drip, ac yn clywed y Gymraeg. Mae’r plant yn cael siarad Cymraeg, a chanu’n Gymraeg… mae o’n neis ei glywed o.

“Dyna ydi’r adborth rydan ni’n ei gael. Roeddwn i efo rhiant ddoe – roedd o’n siarad Saesneg, ond roedd o’n licio dod yna i wrando, a gallu dweud ychydig o eiriau gyda’r plentyn. Roedd cymaint o Gymraeg yn digwydd, roedd o jyst yn pigo fo i fyny, ac yn canu.”

Siani Sionc – dechrau ar ôl gweld “angen”

Dechreuodd Sian Elin wneud sioeau i blant bach yn ei chymeriad ‘Siani Sionc’ ar ei liwt ei hun tua phedair blynedd yn ôl, ar ôl ennill cystadleuaeth y Mudiad Meithrin yn Eisteddfod yr Urdd, Meithrin Talent.

“Mae e’n meddwl y byd i mi fy mod i’n gallu gwneud hyn,” meddai Sian Elin wrth golwg360.

“Mae wedi tyfu achos yr angen o ran plant ifanc Cymru, yn enwedig y cyfnod sylfaen, ac iau, y cyfnod meithrin.

“Mae’n grêt gallu magu eu hyder nhw, eu bod nhw i gyd yn gallu canu, dawnsio, ymuno gyda fi a hefyd drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Hi sydd wedi sgriptio’r sioe eleni, sy’n cynnwys stori fach seml.

“Y stori eleni yw bod Dewin ar goll, ac mae angen casglu’r geiriau hud er mwyn sicrhau bod Dewin yn cyrraedd y parti erbyn y diwedd,” meddai Sian Elin.

“Ry’n ni’n dysgu rhyw fath o eirfa Sylfaen achos cyfnod Sylfaen/Meithrin ry’n ni’n cyffwrdd arno. Geiriau efallai fydden nhw ddim yn hynod gyfarwydd â nhw, ond maen nhw’n gallu cael eu rhoi yn eu llefaredd nhw wrth eu cyflwyno drwy ddawns a chân.”

Gweddill taith Gŵyl Dewin a Doti Gyda Siani Sionc

Gerddi Botaneg, Sir Gâr, dydd Gwener, Mehefin 23, 10:30, 11:30, 12:45 ac 13:45.

Fferm Ffantasi, Ceredigion, dydd Gwener, Mehefin 30, 10:00, 11:00, 12:00 ac 13:30

Ysgol y Llys, Prestatyn, dydd Gwener, Gorffennaf 14, 10:00

Tŷ Pawb, Wrecsam, dydd Gwener, Gorffennaf 14, 13:15 a 14:00