Mae nifer o bobol flaenllaw yng Nghymru wedi cael eu hanrhydeddu fel rhan o Anrhydeddau Pen-blwydd Brenin Lloegr.

Yn eu plith mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, sy’n derbyn CBE.

Bu’n Aelod o’r Senedd dros Fro Morgannwg ers 1999, ac mae’n dweud ei bod hi’n “ddiolchgar” am yr anrhydedd.

Gwleidydd arall sy’n derbyn anrhydedd (OBE) yw Vincent Bailey, arweinydd y Grŵp Ceidwadol ar Gyngor Bro Morgannwg, a hynny am ei gyfraniad i wleidyddiaeth, a gwaith gwirfoddol ac elusennol.

Addysg, iechyd, chwaraeon a cherddoriaeth

Mae’r Athro Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn derbyn CBE am ei gyfraniad i’r Gymraeg ac addysg.

O’r byd chwaraeon, mae’r athletwraig triathlon a chyn-bencampwraig y byd, Non Stanford, yn derbyn MBE.

Mae Kingsley Ward, perchennog stiwdio recordio Rockfield yn Sir Fynwy, hefyd yn derbyn MBE am ei wasanaeth i’r byd cerddorol.

Mae llu o fandiau byd-enwog – o Queen i Coldplay – wedi recordio yn y stiwdio ar hyd y blynyddoedd, gyda ‘Bohemian Rhapsody’ a ‘Yellow’ ymhlith y caneuon enwocaf i gael eu recordio yno.

Cafodd yr albwm (What’s the Story) Morning Glory gan Oasis ei recordio yno hefyd, a hwnnw’n cynnwys dwy o ganeuon enwoca’r band, ‘Wonderwall’ a ‘Don’t Look Back in Anger’.

Ymhlith y sêr a’r bandiau eraill sydd wedi recordio yno mae Ozzy Osbourne a Black Sabbath.

Cafodd y stiwdio ei sefydlu gan Kingsley Ward a’i ddiweddar frawd Charles, fu farw’r llynedd.

Yn derbyn Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Brenin mae Jason Killens, pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.