Mae ymchwil newydd gan ddarlithydd o Fangor yn edrych ar pam fod rhai gweithwyr ym myd iechyd yn sensitif i iaith a diwylliant cleifion, ond nad yw eraill.

Er bod ymchwilwyr yn gwybod pa mor bwysig ydy dwyieithrwydd mewn gofal cymdeithasol ac iechyd, does dim llawer o waith wedi cael ei wneud ar agweddau gweithwyr tuag at iaith a diwylliant cleifion yng Nghymru, yn ôl Dr Sara Roberts.

Eglura mai un o’r pethau mwyaf sy’n dylanwadu ar agwedd gweithwyr neu fyfyrwyr ym maes iechyd ydy eu profiadau.

Cafodd yr ymchwil ei wneud yng Nghanada a Chymru, gan edrych ar ieithoedd swyddogol lleiafrifol, ac fe wnaeth Sara Roberts gyflwyno’r ymchwil yng Nghynhadledd Ieithoedd Lleiafrifol mewn Addysg Iechyd Prifysgol Caerdydd yr wythnos hon.

“[Roeddwn i] eisiau cael gwell ddealltwriaeth a datblygu theori sy’n rhoi fframwaith i ni ffeindio allan pam mae pobol wedi datblygu eu hagweddau a’r wybodaeth sydd ganddyn nhw, a be sy’n dylanwadu ar eu hymarfer nhw i feddwl mewn ffordd am sut fedran nhw newid,” meddai Sara Roberts, sy’n byw yn Llanfairfechan, wrth golwg360.

“Mae gen ti rai ymarferwyr sy’n sensitif i iaith a diwylliant y claf, ond mae gen ti bobol eraill sydd ddim – pobol sy’n dweud ‘Well they all speak English anyway, why do we bother?’, math o beth.

“Does yna ddim ymchwil wedi bod sy’n rhoi fframwaith, tool kit, i ddeall pam bod pobol yn datblygu ymarfer a phobol eraill sydd ddim. Dyna ydy’r fframwaith, Fframwaith Saith Sbardun dw i wedi’i galw hi, ac mae’n sôn am be sy’n sbarduno ni i ddatblygu o fewn maes addysg, ymarfer, ymchwil, a pholisi a deddfwriaeth.”

Dylanwadau

Wrth drafod rhai o’r dylanwadau sydd yn effeithio ar agwedd rhywun a’r parch sydd gan weithwyr ym maes iechyd at anghenion ieithyddol cleifion, y prif beth ydy eu profiadau, yn ôl Sara Roberts.

“Be sydd wedi digwydd i ni sy’n gwneud i ni ymarfer mewn ffordd bositif neu mewn ffordd negyddol tuag at iaith?” meddai.

“Mi gei di rai pobol sy’n deall, maen nhw wedi gweld y gwahaniaeth os ti’n cael gwasanaeth Cymraeg dweud wrth rywun efo dementia. Mae myfyrwyr ac ymarferwyr yn gallu gweld ei bod hi’n wahanol os ydyn nhw wedi cael eu gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae gen ti’r cyd-destun o le ti’n gweithio, pwy ti’n gweithio efo, be ydy eu hagweddau nhw, diwylliant y gweithle. O fewn addysg, os oes gen ti rywun sy’n hybu’r Gymraeg mae hynna am wneud gwahaniaeth.

“Os oes gen ti rywun sy’n wrth-Gymraeg, ti’n mynd i gael cwrs uniaith Saesneg – dyna ddigwyddodd i fi yn y 1980au, fe wnes i hyfforddi fel Therapydd Galwedigaethol a doedden nhw’r adeg yna ddim yn licio pobol oedd yn siarad Cymraeg, roedden nhw’n gweld o’n broblem.

“Erbyn hyn, wrth gwrs, rydyn ni’n deall pwysigrwydd pobol sy’n gallu ymarfer yn ddwyieithog yng Nghymru a faint o wahaniaeth mae o’n wneud i’r claf eu bod nhw’n cael y gwasanaeth yn eu dewis iaith nhw.”

Cyfrifoldeb y di-Gymraeg

Mae Sara Roberts yn grediniol nad cyfrifoldeb siaradwyr Cymraeg yn unig ydy hybu gwasanaethau sy’n addas ar gyfer iaith a diwylliant cleifion.

“Ti’n gallu bod yn rhywun sy’n ddi-Gymraeg ond sy’n ymwybodol pa mor bwysig ydy o, yn gofyn os yda chi eisiau i ni gael rhywun sy’n siarad Cymraeg, ydy’r gwaith papur i gyd yn ddwyieithog,” meddai.

“Mae gen ti dri chategori – siaradwyr Cymraeg, rhai sy’n dysgu, a rhai di-Gymraeg. Mae o’n fusnes i bawb i ddatblygu mewn ffordd sy’n meddwl am anghenion y claf gyntaf.

“Mae gennym ni hawl i gael gwasanaeth yn ein dewis o iaith, ond dydy realiti hynna ddim yn wir.

“Ond os ti’n mynd i weld rhywun a’u bod nhw’n dweud ‘I’m really sorry I don’t speak Welsh, would you like me to get you somebody who is a Welsh speaker?’ – i mi yn aml iawn dw i’n meddwl na mae hynna’n o reit, ond mae yna adegau eraill pan ti’n meddwl fysa hynna’n grêt.

“Yn aml iawn, y pethau bychain sy’n gwneud gwahaniaeth – y ffordd mae rhywun yn ateb y ffôn, neu’r ffordd mae rhywun yn dangos parch ac urddas tuag at ein hiaith a’n diwylliant ni. Mae hynna’n rhywbeth sydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydyn ni’n teimlo fel defnyddwyr gwasanaeth.”

Mae’r theori yn rhoi fframwaith i hybu newid ymysg agweddau myfyrwyr a phobol sy’n gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol a maes iechyd, ychwanega Sara Roberts, a’r cam nesaf ydy cyhoeddi’r theori.

“Mae o’n rhywbeth sy’n mynd i wneud gwahaniaeth i’n dealltwriaeth ni o pam mae pobol yn, neu ddim yn, mynd yn ymarferwyr sy’n parchu ac yn gallu ymdrin ag anghenion ieithyddol a diwylliannol y claf.”