Mae gwaith yn cael ei wneud i gydlynu data ar yr iaith Gymraeg gan wahanol ffynonellau yng Nghymru.

Bydd cynllun gwaith ar y cyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ac ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cysylltu data Cyfrifiad 2021 gyda data’r ONS trwy’r Gwasanaeth Data Integredig.

Y bwriad yw dysgu mwy am wahanol ymatebion ynglŷn â’r gallu yn y Gymraeg yn y cyfrifiad ac mewn arolygon.

Trwy hyn, y gobaith yw gwella dealltwriaeth o’r gwahaniaethau rhwng y prif ffynonellau data er mwyn mynd i’r afael â pham fod y canlyniadau’n amrywio.

Bydd hyn yn cynnwys edrych ar sut y caiff yr arolygon eu dylunio a’u rhoi ar waith.

Caiff gwybodaeth am bobol sy’n gallu siarad Cymraeg ond sy’n byw y tu allan i Gymru ei gasglu hefyd er mwyn ystyried sut gall yr ystod o ystadegau ar y Gymraeg cael ei wella.

Cwymp mewn siaradwyr

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 yn ystod mis Rhagfyr llynedd, a ddatgelodd bod y nifer o siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 562,000 i 538,000.

Doedd y data yma ddim yn cyd-fynd ag Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth Llywodraeth Cymru, oedd wedi canfod bod 900,600 o siaradwyr Cymraeg, sy’n gynnydd ers yr arolwg blaenorol.

Yn sgil data’r cyfrifiad, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg, ei fod yn parhau i fod yn “gwbl ymrwymedig” i gyrraedd targedau iaith.

“Mae Cyfrifiad 2021 yn dangos un cipolwg i ni o’r hyn sydd wedi digwydd dros y deng mlynedd diwethaf. Byddwn yn edrych ar y canlyniadau hynny’n fanwl ochr yn ochr â’r holl ystadegau ac ymchwil eraill sydd ar gael i ni,” meddai.

“Ond rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i’n nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r nifer ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd erbyn 2050.”

‘Heriol defnyddio’r ystadegau’

Dywed Llywodraeth Cymru mewn datganiad fod yr ystod o ddata iaith Gymraeg sydd ar gael erbyn hyn yn “cyfoethogi’n dealltwriaeth ni o sefyllfa’r Gymraeg ar lawr gwlad heddiw.”

“Yn ein strategaeth ni ar gyfer ein hiaith, Cymraeg 2050, a gyhoeddon ni yn 2017, rydym yn nodi mai’r cyfrifiad yw’r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am allu’r boblogaeth yng Nghymru yn y Gymraeg,” meddai llefarydd.

“Mae Cymraeg 2050 yn datgan y bydd y cynnydd tuag at ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei fonitro gan ddefnyddio data cyfrifiadau’r dyfodol.

“Mae’r gwahaniaethau mawr rhwng canlyniadau’r cyfrifiad a’r arolygon yn ei gwneud hi’n heriol i ddefnyddio’r ystadegau hyn i hysbysu polisi iaith.”