Mae nifer o wleidyddion wedi llofnodi llythyr gan Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, yn galw am archwiliad diogelwch o ffordd yr A4085 yn dilyn marwolaeth dyn ifanc yno’r wythnos ddiwethaf.
Bu farw Joshua Lloyd Roberts, oedd yn 19 oed ac yn dod o Gaernarfon, ar y ffordd ger parc gwyliau Glan Gwna ar Fehefin 2.
Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi’r llythyr mae’r cynghorwyr Menna Trenholme a Dewi Wyn Jones, yr Aelod Seneddol Hywel Williams, a Maer Caernarfon Cai Larsen.
“Mae damweiniau yn ogystal ag ymddangosiad y rhan yma o’r lon, yn awgrymu’n gryf bod y safle yn beryglus, ac rydym yn dra phryderus y bydd damwain ddifrifol arall yn digwydd yno yn hwyr neu’n hwyrach,” meddai’r llythyr.
Mae’r llythyr yn gofyn am gael “gwneud unrhyw welliannau sydd eu hangen cyn gynted â phosibl”.
Cefndir
Cafodd dyn 32 oed ei arestio ar Fehefin 8 ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal.
Mae’r dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ac mae’r heddlu’n dweud na fydd camau pellach yn erbyn dyn 19 oed gafodd ei arestio a’i ryddhau dan ymchwiliad.
Mae ymholiadau’r heddlu’n parhau ac mae swyddogion yn parhau i fod yn awyddus i dderbyn lluniau dashcam o’r digwyddiad.
Hoffi chwaraeon
Mae dros £20,000 wedi’i godi er cof am Joshua Lloyd Roberts, ac fe gafodd gêm bêl-droed elusennol ei chynnal yng Nghae Stanley ar Fehefin 8.
Mae baneri, sgarffiau a blodau wedi’u gosod yn lle oedd y ddamwain ar Ffordd Waunfawr yng Nghaeathro.
Mae ochr y ffordd wedi’i haddurno â thocynnau o gemau ei hoff dimau – Cymru, Caernarfon, Everton a Bontnewydd.
Roedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac yn astudio chwaraeon.
Roedd yn aelod o dîm pêl-droed Bontnewydd hefyd, a bydd teyrnged iddo yn ystod gêm Cymru yn erbyn Armenia heno (nos Wener, Mehefin 16) er cof am y bachgen “dawnus a thalentog”.