Daeth cadarnhad heddiw (dydd Gwener, Mehefin 16) mai Rhun ap Iorwerth yw arweinydd newydd Plaid Cymru, ar ôl i neb arall sefyll yn ei erbyn.
Mewn araith ym Mae Caerdydd, anerchodd y blaid a’r cyhoedd gan amlinellu ei fwriadau wrth symud y blaid yn ei blaen.
Diolchodd yr arweinydd newydd i’w ragflaenydd, Adam Price, am ei “oes o ymroddiad” i’r Blaid dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mi fydd o’n parhau yn rhan allweddol o’n dyfodol ni hefyd, does gen i ddim amheuaeth am hynny,” meddai.
“A dw i eisiau diolch i Llŷr [Gruffydd, yr arweinydd dros dro] am gymryd yr awenau mewn ffordd mor fedrus yn y cyfnod diweddar.
“Mae ei brofiad o wedi bod yn amhrisiadwy i ni, a’i lywio doeth o dros yr wythnosau a aeth heibio wedi ei werthfawrogi gen i’n sicr, a’r Blaid yn ehangach hefyd.
“A dw i’n mynd i bwyso’n drwm arnyn nhw, ac yn wir ar bob un aelod o’r tîm rhagorol sydd gennym ni yn y Senedd ac yn San Steffan ac yn ein timau ni o gynghorwyr.”
‘Mae ffordd ymlaen’
Yn ystod yr araith, wnaeth yr arweinydd newydd ddim cuddio rhag heriau diweddar y blaid.
“Rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n barod i wynebu’r rhwystrau o’n blaenau ni, ac rydan ni’n gwybod bod gennym heriau i’w hwynebu fel Plaid,” meddai.
“Y peth allweddol i fi ydi ein bod ni wedi dangos ein bod ni’n gwbl benderfynol o wynebu a goresgyn yr heriau hynny.
“Mae pob plaid, a chymaint o sefydliadau eraill, yn wynebu heriau tebyg.
“Ond drwy adroddiad Prosiect Pawb a gwaith Nerys Evans, mae gennym ni ffordd ymlaen – ac mi fydda i’n ddigyfaddawd wrth sicrhau ein bod ni’n gweithredu.”
Rhoddodd bwyslais mawr ar yr elfen o gydweithio, gan ddweud eu bod yn “gweld y rôl o arwain y Blaid fel prosiect ar y cyd” a “dod â goreuon y dalent, yr egni, y syniadau sydd gennym ar draws y blaid at ei gilydd wrth i ni adeiladu ymddiriedaeth yn ein gweledigaeth”.
‘Gwerthoedd creiddiol’
Yn ôl yr arweinydd, cafodd “gwerthodd creiddiol Plaid Cymru” eu gwreiddio ynddo gan ei rieni yn ystod ei blentyndod, a dywed ei fod yn cydnabod yn ifanc iawn fod Plaid Cymru’n ymgorfforiad o uchelgais dros Gymru.
“Mae teulu a chymuned a gwreiddiau yn ein gwneud ni’n be’ ydan ni wrth gwrs,” meddai.
“Ymhlith y gwerthoedd gafodd eu gwreiddio ynof fi gan Dad a Mam oedd gwerthoedd creiddiol Plaid Cymru.
“Mi oedd y gwerthoedd yna o fynnu tegwch i bobol, i gymuned ac i wlad, o ofalu am y llai breintiedig, o estyn llaw at ein cyd-ddyn yn gwbl, gwbl elfennol i fi.”
Cyfeiriodd hefyd at ymweliad Nelson Mandela â Chaerdydd 25 mlynedd yn ôl, gan ddweud bod ei “ymweliad o i Gymru yn fy ysbrydoli i fel cymaint o rai eraill”.
Daeth ei araith i derfyn drwy gyfeirio at gân ysgrifennodd ei dad, Edward Morus Jones, gyda Dafydd Iwan, Mae’n Wlad i Mi.
“O Fôn i Fynwy, mae’r wlad hon yn eiddo i ti a mi,” meddai.
“Ar fy rhan i, rwy’n addo y byddaf yn arwain gyda gostyngeiddrwydd, angerdd ac egni a byddaf yn arwain gyda phawb sy’n rhannu’r nod hwnnw o adeiladu Cymru well.
“Mae gennym ni waith i’w wneud.”
Y blaid yn ei longyfarch
Mae Llŷr Gruffydd, cyn-arweinydd dros dro’r blaid, wedi llongyfarch yr arweinydd newydd.
“Rwy’n gwybod y bydd Rhun yn llais angerddol a phwerus dros Gymru a’i phobol,” meddai.
“Gyda’i allu i fynegi gweledigaeth rymus o sut y gall ein cenedl wireddu ei llawn botensial, gwn fod Rhun yn deall beth sy’n bwysig i bobol Cymru, boed hynny’n economi decach, mwy ffyniannus neu’n wasanaeth iechyd gwydn, mwy effeithlon.
“Gwn y bydd Rhun yn cyflwyno llwyfan polisi uchelgeisiol i arwain Cymru ar y daith i annibyniaeth.
“Wrth i fy nghyfnod fel Arweinydd Dros Dro ddirwyn i ben, rwyf wedi fy nghalonogi gan y cynnydd a wnaed eisoes wrth weithredu argymhellion ‘Prosiect Pawb’ a gwn y bydd Rhun yn blaenoriaethu cwblhau’r gwaith pwysig hwn.”
‘Cymru decach, fwy llewyrchus a blaengar’
Un arall sydd wedi ei longyfarch yw Liz Saville Roberts, arweinydd y blaid yn San Steffan.
“Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithredu argymhellion adroddiad Nerys Evans ar frys, gan sicrhau ein bod yn llwyr barod ar gyfer yr etholiad cyffredinol sydd i ddod,” meddai.
“Mae gan Gymru botensial aruthrol sydd wedi’i wastraffu gan bleidiau San Steffan.
“Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd â gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru decach, fwy llewyrchus a blaengar.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Rhun i wireddu’r weledigaeth honno.”