Does dim dwywaith y byddai Rhun ap Iorwerth wedi cael ei weld fel ymgeisydd cryf i arwain Plaid Cymru beth bynnag fo’r amgylchiadau. Mae’n rhesymol credu hefyd y byddai’n debygol iawn o fod wedi curo pwy bynnag a fyddai wedi sefyll yn ei erbyn y tro hwn. Eto i gyd, er gwaethaf cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel arweinydd, mae her yn ei wynebu o ran ennyn brwdfrydedd aelodau Plaid Cymru tuag at ei arweinyddiaeth. Nid oherwydd unrhyw amheuon am ei allu, ond am eu teimlad o ddryswch ynghylch digwyddiadau rhyfedd yr wythnosau diwethaf.

Mae’r cyfan yn arwain rhywun i holi: Os mai Rhun ap Iorwerth ydi’r ateb i Blaid Cymru, beth oedd y cwestiwn yn y lle cyntaf?

Os oedd aelodau Plaid Cymru o’r Senedd wedi barnu nad oedd Adam Price yn addas i arwain, ai cael Rhun ap Iorwerth i gymryd ei le oedd y bwriad o’r cychwyn?

Os felly, byddai’n ddiddorol cael gwybod ar ba sail y penderfynwyd y byddai hyn yn beth da neu’n angenrheidiol. Ond yn fwy na hynny, os mai newid arweinydd oedd y prif nod, pa werth oedd i’r holl hunan-fflangellu cyhoeddus diweddar? A beth yn hollol oedd y camweddau anhysbys sydd wedi gofyn am hyn?

Siarad mewn damhegion

Gadewch inni fod yn onest – mae llawer o wleidyddion blaenllaw Plaid Cymru wedi mynd dros ben llestri’n lân efo’u cyffesiadau dramatig o euogrwydd torfol dros yr wythnosau diwethaf.

Euogrwydd am beth sy’n gwestiwn heb gael ei ateb – y cyfan a gawn yw cyfeiriadau amwys ac aneglur am ‘ddiwylliant’ honedig o fwlio, aflonyddu rhywiol a chasáu merched. Dydi siarad mewn damhegion fel hyn ddim yn ddigon da – ac anodd gweld pa les gwleidyddol all ddod o dderbyn rhyw fath o gyd-gyfrifoldeb am gamweddau o’r fath. Mi fyddai disgwyl i unrhyw blaid wleidyddol gall fod naill ai wedi cuddio unrhyw ganfyddiadau negyddol, neu wedi sicrhau bod y tramgwyddwyr perthnasol yn cael eu taflu o dan y bws diarhebol yn lle bod pawb yn cymryd eu pardduo.

Ni all gwleidyddion Plaid Cymru feio neb os ydyn nhw’n derbyn ymateb sinicaidd i’w holl ddatganiadau sy’n swnio fel efelychiadau gwan o eiriau grymus Gwilym R Jones:

“Am na chodasom lais i achub y diniwed

Nyni sydd euog o’r Fradwriaeth Fawr”.

Trwy gyhoeddi digon o wybodaeth i roi argraff anffafriol o’r blaid, ond sydd eto’n rhy amwys i fod o unrhyw werth, y perygl ydi bod Plaid Cymru wedi disgyn rhwng dwy stôl a llwyddo i gael i gwaethaf o ddau fyd.

Nid yw eu stori’n dal dŵr chwaith, wrth bwysleisio bod y ‘diwylliant’ hwn yn mynd yn ôl flynyddoedd ar y naill law, ond eto’n ei led-briodoli i arweiniad Adam Price ar y llaw arall.

Mae’n bur amlwg mai arwydd o ymrafael mewnol ydi’r anghysondeb hwn, ond ei ganlyniad anochel ydi rhoi dechrau hynod anodd i’r arweinydd newydd.

Manteision

Er gwaethaf amgylchiadau anffodus y ffordd mae wedi dod i’r swydd, mae gan Rhun ap Iorwerth rai manteision o’i blaid.

Mae’n amlwg ei fod yn wleidydd galluog ac uchel ei barch sydd â record o lwyddiant etholiadol nodedig yn ei etholaeth ym Môn. Mae’r gefnogaeth sylweddol a gafodd pan safodd fel ymgeisydd i arwain Plaid Cymru y tro blaen hefyd yn rhoi hygrededd i’w arweinyddiaeth.

Mantais arall, lai amlwg, ydi na fydd disgwyliadau mor afrealistig o uchel i’w arweinyddiaeth ag yn achos ei ddau ragflaenydd. Gyda’i chefndir fel merch o’r Rhondda yn rhoi iddi’r ddelwedd berffaith yng ngolwg llawer o bleidwyr, roedd disgwyl i Leanne Wood greu gwyrthiau yng nghymoedd ôl-ddiwydiannol y de. Ac efallai mai’r maen melin trymaf am wddw Adam Price oedd naïfrwydd y cenedlaetholwyr uniongred hynny sy’n dal i gredu yn y syniad o Fab Darogan.

Fydd dim perygl i neb ddisgwyl gwyrthiau o’r fath gan Rhun ap Iorwerth, yn enwedig o dan yr amgylchiadau presennol.

Mantais arall ganddo, yn eironig efallai, ydi y gellir bod yn sicr nad ydi’r rhaniadau amlwg yn rhengoedd Plaid Cymru lawn mor ddrwg ag maen nhw’n ymddangos ar yr olwg gyntaf.

Pa bynnag ffraeo sydd wedi digwydd, ac a all fod yn dal i ddigwydd, nid oes yn agos i’r un math o gasineb ag sydd i’w weld mewn pleidiau eraill. Prin fod angen crybwyll y Blaid Dorïaidd fel yr enghraifft amlycaf, ond dydi trafferthion Plaid Cymru’n ddim i’w cymharu â’r rhai’r SNP chwaith. A gall Rhun ap Iorwerth ddiolch nad ydi’r her sy’n ei wynebu yn ddim o gymharu â’r dasg amhosibl sydd o flaen Humza Yousaf.

Her San Steffan

Yr her etholiadol gyntaf sy’n debygol o wynebu Rhun ap Iorwerth fydd etholiad San Steffan y flwyddyn nesaf.

Yn hyn o beth, mae wedi gwneud pethau’n llawer mwy anodd iddo’i hun yn sgil penderfyniad a wnaeth i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer San Steffan ym Môn.

Gallwn fod yn sicr y bydd yn rhoi’r gorau i hyn ac yntau bellach yn arweinydd y blaid. Heb sôn am yr anawsterau ymarferol o’r angen am arweinydd newydd pe bai’n cael ei ethol, go brin y byddai aelodau Plaid Cymru’n hapus o weld eu harweinydd yn rhoi’r argraff fod Senedd San Steffan yn cael blaenoriaeth ar Senedd Cymru ganddo.

Eto i gyd, mi fydd wedi siomi amryw o gefnogwyr ym Môn trwy godi eu gobeithion a chwalu’r gobeithion hynny mor sydyn, ac anodd dychmygu ymgeisydd a fydd â chystal gobaith o lwyddo. Wrth iddo ymgyrchu ym Môn, mae’n sicr o wynebu llu o gwestiynau gan etholwyr ar lawr gwlad pam nad ydi o’n sefyll ei hun.

Gyda nifer etholaethau Cymru’n gostwng o 40 i 32, mae am fod fwy neu lai’n amhosibl i Blaid Cymru ddal gafael ar bedair sedd.

Anodd gweld pa obaith fydd ganddyn nhw o ddal gafael ar Gaerfyrddin, yn wyneb y trafferthion lleol yno, ac a allai fod yn agored i ogwydd mawr i Lafur prun bynnag. Bydd Plaid Cymru’n colli sedd yng Ngwynedd hefyd gan mai dim ond un, yn hytrach na’r ddwy bresennol, sy’n gyfan gwbl o fewn y sir. A chymryd y bydd yn dal gafael ar Wynedd a Cheredigion, mae Môn yn debygol o olygu’r gwahaniaeth rhwng dwy a thair sedd i Blaid Cymru yn yr etholiad.

O’r herwydd, mae iddi ennill Môn y flwyddyn nesaf yn debygol o fod yn faen prawf allweddol o lwyddiant yr arweinydd newydd, sy’n arbennig o wir o gofio mai dyma etholaeth Rhun ap Iorwerth.

Rhagolygon ar gyfer Senedd Cymru

Ar ôl etholiad anodd y flwyddyn nesaf, bydd yn wynebu’r her fwy o ddiffyg rhagolygon o gynnydd etholiadol yn etholiad senedd Cymru ychwaith. Byddai angen cynnydd anferthol yn y gefnogaeth i Blaid Cymru cyn y gall ddisgwyl ennill nifer sylweddol o seddau ychwanegol.

Y gwir amdani ydi mai aros yn ei hunfan i bob pwrpas mae’r blaid wedi ei wneud yn etholiadol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf pwy bynnag oedd yr arweinydd ar y pryd. Ac anodd gweld rheswm dros ddisgwyl unrhyw newid dramatig – er gwell nac er gwaeth – o dan yr arweinydd newydd.

Mae’n wir fod Rhun ap Iorwerth wedi cael llwyddiant rhyfeddol wrth ennill mwyafrifoedd mawr iddo’i hun ym Môn. Eto i gyd, gellir priodoli’r llwyddiant hwn i raddau helaeth i’w allu i argyhoeddi’r etholwyr mai y fo oedd y gorau i gynrychioli’r ynys yn Senedd Cymru. Mae ysbrydoli pobl gweddill Cymru i gredu ym Mhlaid Cymru am fod yn her hollol wahanol a llawer mwy anodd.

Ni all unrhyw arweinydd – waeth pa mor huawdl – lwyddo i wneud hyn oni bai fod gan ei blaid weledigaeth gredadwy o’r hyn y gall ei gyflawni i wella pethau yng Nghymru. Mae ymhell o fod yn glir fod gan Blaid Cymru weledigaeth o’r fath ar hyn o bryd, ac mae’n dasg y bydd yn rhaid iddi hi a’i harweinydd newydd ganolbwyntio arni dros y blynyddoedd nesaf.

Rhannu’r baich?

Yn y pen draw, mae’r holl heriau sy’n wynebu Plaid Cymru ar hyn o bryd yn ormod i unrhyw un person fynd i’r afael â nhw.Mae’r diffyg rhagolygon o dwf etholiadol, ynghyd â’r helyntion diweddar, am ei gwneud yn fwy anodd i unrhyw arweinydd sicrhau undod yn y blaid. Eisoes, cafwyd arwyddion o hyn gyda rhai wedi mynegi’r farn y byddai wedi bod yn well cael cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth – gan gynnwys y cyn-arweinydd Leanne Wood yn gresynu nad oedd dynes yn sefyll. Siarad gwag ydi hyn gan ei bod yn debygol fod gan bob aelod arall o’r Senedd eu rhesymau personol a dilys dros beidio â sefyll.

Awgrym mwy adeiladol gan rai oedd y dylid ystyried cael dau berson – dyn a dynes – i rannu’r arweinyddiaeth, er y byddai angen llawer o drafod sut y gallai trefniant o’r fath weithio’n ymarferol.

Eto i gyd, mae un ffordd hawdd iawn i Blaid Cymru rannu’r baich dros y flwyddyn nesaf – a rhoi lle blaenllaw i ddynes yr un pryd.

Yr ateb amlwg fyddai penodi Liz Saville yn arweinydd swyddogol ymgyrch etholiad San Steffan a gadael i Rhun ap Iorwerth ganolbwyntio ar y dasg fawr sy’n ei wynebu yn Senedd Cymru.

Mae amgylchiadau presennol Plaid Cymru yn gofyn am angen atebion mwy radical a chreadigol na’r hyn y gall unrhyw un arweinydd eu cyflawni.