Rhun ap Iorwerth yw arweinydd newydd Plaid Cymru.

Wnaeth neb sefyll yn ei erbyn yn y ras i olynu Adam Price, oedd wedi ymddiswyddo fis diwethaf yn dilyn adroddiad damniol Nerys Evans ynghylch diwylliant y blaid, oedd yn cynnwys bwlio, aflonyddu a gwreig-gasineb (misogyny).

Dywedodd yr arweinydd newydd yn ddiweddar y byddai’n barod i gynnig “gweledigaeth” ar gyfer Cymru “hyderus”, a bod y blaid “o ddifrif” am fynd i’r afael â’r problemau diweddar o fewn y blaid.

Bu’n Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn ers 2013.

Llongyfarchiadau

Ar ôl y cyhoeddiad, mae nifer o Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd wedi llongyfarch yr arweinydd newydd, gan gynnwys Llŷr Gruffydd, sydd wedi bod yn arweinydd dros dro ers i Adam Price gamu o’r neilltu.

‘Beth sydd wedi newid?’

Croeso llugoer gafodd ei benodiad gan y Ceidwadwyr Cymreig, serch hynny.

“Hoffwn longyfarch Rhun ar ei benodiad yn arweinydd ar y drydedd plaid fwyaf yng Nghymru,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies.

“Er, y rheswm am newid yr arweinyddiaeth oedd anallu arweinyddiaeth flaenorol y Blaid i fynd i’r afael â materion o fewn eu plaid.

“Gan fod Rhun yn Ddirprwy Arweinydd yn y tîm hwnnw, beth sydd wedi newid?!”

‘Edrych ymlaen at berthynas adeiladol’

Dywed Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ei fod yn “edrych ymlaen at berthynas adeiladol” â Rhun ap Iorwerth.

“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad mai Rhun ap Iorwerth fydd arweinydd newydd Plaid Cymru,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at berthynas adeiladol, i barhau i gyflawni rhaglen uchelgeisiol y Cytundeb Cydweithio tair blynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.”