Dydy Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddim wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn wrth geisio penodi prif weithredwr newydd.

O ganlyniad, bydd Carol Shillabeer, y prif weithredwr dros dro, yn parhau yn y swydd nes bod arweinydd llawn amser yn y swydd.

Cafodd pryderon eu codi fis Chwefror am y ffordd roedd y bwrdd iechyd – y bwrdd mwyaf yng Nghymru – yn cael ei redeg.

Mae Carol Shillabeer wedi bod yn cyflawni’r rôl ers mis Mai, yn dilyn adroddiad gan Archwilio Cymru oedd yn dweud nad oedd y “tîm cyfan yn unedig o amgylch y prif weithredwr dros dro” blaenorol.

Bu i’r cyn prif weithredwr, Joe Whitehead, ymddeol fis Medi y llynedd, ac mae’r bwrdd wedi gweld pedwar prif weithredwr yn mynd a dod dros y pedair blynedd diwethaf.

“Mae holltau eglur a dwfn o fewn y tîm gweithredol sy’n atal y tîm hwnnw rhag gweithio’n effeithiol,” meddai’r adroddiad.

Mesurau arbennig

O ganlyniad, rhoddodd Llywodraeth Cymru’r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig oherwydd pryderon yng ngallu’r corff i fynd i’r afael â diogelwch eu cleifion.

“Wrth galon y gwaith i ddatblygu ac adeiladu sefydliad cynaliadwy, sy’n gallu darparu’r gwasanaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol y mae pobol gogledd Cymru yn eu haeddu, fydd penodi prif weithredwr parhaol newydd,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.

“Bydd y cadeirydd newydd yn arwain y gwaith o recriwtio unigolyn sydd â’r weledigaeth, yr arweiniad a’r egni angenrheidiol i ailadeiladu hyder y gweithlu a’r cyhoedd.”

Mae Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod enw drwg y bwrdd iechyd yn golygu “nad yw’n syndod” nad oes prif weithredwr wedi’i benodi.

“Nid yn unig y bydd gan unrhyw un sy’n cymryd yr awenau dasg sylweddol o drawsnewid perfformiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng ngogledd Cymru, ond byddant hefyd yn gorfod gweithio gyda thîm gweithredol sydd wedi camweithredu ac a ddylai fod wedi’u diswyddo – y rhan fwyaf ohonynt, amser maith yn ôl,” meddai.

“Y ffordd orau o ddenu prif weithredwr newydd yw cael gwared ar y tîm gweithredol presennol fel y gall prif weithredwr newydd benodi tîm sydd â’r hygrededd a’r diwylliant y dylai pobl ei ddisgwyl gan uwch reolwyr sy’n gweithio yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”