Mae Cyngor Gwynedd wedi dwyn achos llwyddiannus yn erbyn ffermwr o Rydymain am gyfres o droseddau’n ymwneud ag anifeiliaid.

Yn Llys y Goron Caernarfon ar Fai 19, cafwyd Liam Hughes yn euog o achosi dioddefaint diangen i rai o’i ddefaid, o fethu â chael gwared ar garcasau anifeiliaid, ac o fethu â chydymffurfio â hysbysiadau swyddogol y Cyngor mewn perthynas â chlafr defaid.

Mae’n ffermio ar dir ym Mron Einion yn Rhydymain ger Dolgellau.

Plediodd yn ddieuog i’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ond cafodd tystiolaeth ei chyflwyno mewn perthynas â lles defaid oedd wedi dioddef yn ddiangen, gan gynnwys bod mewn poen ar ôl cael eu hanafu a mynd yn sâl.

Roedd hefyd wedi methu â gwaredu carcasau, hysbysu’r awdurdodau ynghylch defaid oedd wedi’u heintio â’r clafr, ac wedi methu symud defaid oedd yn destun Hysbysiad Ynysu.

Gweithio gyda’r gymuned amaethyddol

“Mae ein swyddogion Safonau Masnach yn gweithio’n agos gyda’r gymuned amaethyddol, trwy gyngor ac ymyrraeth, i sicrhau bod safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu cynnal,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd.

“Hoffwn bwysleisio bod mwyafrif helaeth ffermydd Gwynedd yn darparu’r safonau disgwyliedig hyn, a bod y rhan fwyaf o ffermwyr yn mynd yr ail filltir i sicrhau lles eu hanifeiliaid.

“Fodd bynnag, lle mae diffyg cydymffurfio – fel yn yr achos penodol hwn – nid oes gan y Cyngor unrhyw ddewis ond cymryd y camau gorfodi angenrheidiol.

“Hoffwn ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith ar yr hyn a all fod yn amgylchiadau trist a thrallodus, ac i’r Ynadon am eu proffesiynoldeb wrth ymdrin â’r achos hwn.”