Mae disgwyl y caiff Rhun ap Iorwerth ei benodi’n arweinydd newydd Plaid Cymru wedi i bob aelod arall ddweud na fyddan nhw’n sefyll yn y ras.

Bydd enw’r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol am hanner dydd heddiw (dydd Gwener, Mehefin 16).

Mae’n annhebygol y bydd unrhyw un arall yn rhoi eu henw yn yr het, ar ôl i Siân Gwenllian a Sioned Williams ddweud dydd Gwener (Mehefin 9) na fydden nhw’n sefyll.

Byddai Rhun ap Iorwerth, yr Aelod o’r Senedd dros Fôn sy’n ddirprwy arweinydd ac yn llefarydd iechyd Plaid Cymru, yn olynu Adam Price, oedd wedi ymddiswyddo fis diwethaf yn sgil adroddiad Nerys Evans ynglŷn â’r honiadau o aflonyddu, gwreig-gasineb (misogyny) a bwlio o fewn y blaid.

Pwy yw Rhun ap Iorwerth?

Astudiodd Rhun ap Iorwerth, sy’n enedigol o’r Cymoedd ond a gafodd ei fagu ym Môn, y Gymraeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn gweithio fel newyddiadurwr gyda’r BBC.

Cafodd ei ethol yn Aelod dros Ynys Môn mewn is-etholiad yn 2013.

Bu’n llefarydd Economi a Thrafnidiaeth, Iechyd a Gofal, a Chyllid yn ystod ei amser gyda’r blaid.

Cyhoeddodd ei fod am sefyll am yr arweinyddiaeth mewn fideo byr ar Twitter.

“Does gen i ddim amheuaeth bod Cymru angen Plaid Cymru sy’n ffit ac yn barod i gynnig gweledigaeth o’r hyn y gallai Cymru fod,” meddai.

“Hyderus, teg, gwyrdd, llewyrchus, a gyda’r offer sydd ar gael i ni ar hyn o bryd, ar y daith i annibyniaeth.

“Mae fy ngwlad yn golygu cymaint i mi, fel y mae fy nghymuned, ac rwy’n parhau i fod mor ymroddedig ag erioed i Ynys Môn.

“Ond o’r fan hon i gymoedd y de lle ces i fy ngeni, nawr yw’r amser i uno Plaid Cymru er mwyn i ni allu arwain y gwaith o adeiladu dyfodol newydd i Gymru, ac edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan yn hynny.”

Cefnogaeth y blaid?

Mae rhai o aelodau Plaid Cymru wedi dangos eu pryder ynghylch penodi arweinydd heb gystadleuaeth.

Yn eu plith mae’r cyn-arweinydd Leanne Wood.

“Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn beth iach i gael coroni,” meddai.

Cafodd hyn ei adleisio gan Alun Ffred Jones, cyn-gadeirydd y blaid, ddywedodd fod angen i rywun fod yn hyderus ac yn brofiadol er mwyn cyflwyno’u henw.

“Yn gyffredinol, dw i’n meddwl bod cystadleuaeth o fewn plaid yn beth da bob amser bron, ond os oedd y rhai profiadol ddim am sefyll am wahanol resymau – dyna ni,” meddai.

Mae Leanne Wood, Sioned Williams a Siân Gwenllian hefyd wedi awgrymu y dylai’r arweinydd nesaf fod yn fenyw, a hynny er mwyn gallu mynd i’r afael ag adroddiad Nerys Evans.

Wrth ategu barn Leanne Wood, dywedon nhw mewn datganiad ar y cyd mai “menyw fyddai wedi bod y dewis gorau i arwain Plaid Cymru ar yr adeg yma”.

Er hynny, mae’r tair wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi Rhun ap Iorwerth yn y rôl.

Mae Delyth Jewell hefyd wedi dweud wrth golwg360 y byddai hi’n “hapus i weithio o dan ei arweinyddiaeth.”

“Rwy’n meddwl fod gan Rhun rinweddau ardderchog a fyddai’n fuddiol i’r Blaid,” meddai.

“Mae e’n gyfathrebwr heb ei ail ac rwy’n sicr y byddai’n gallu dod â’r blaid ynghyd.”

Corddi diangen ar drothwy dyfodiad Rhun

Jason Morgan

“Anodd gwybod beth oedd pwynt Leanne, Siân a Sioned wrth alw am ferch i arwain, gan wybod bod hynny ddim am ddigwydd”