Gallai gyrwyr wynebu dirwy am fêpio wrth yrru, wrth i arbenigwyr ddweud nad oes modd gwneud y ddau beth ar yr un pryd mewn modd diogel.

Fis Awst y llynedd, roedd 4.3m o bobol yng ngwledydd Prydain yn dweud eu bod nhw’n fêpio – y gyfradd uchaf erioed a chynnydd o 8.3% o gymharu â’r flwyddyn gynt.

Fe fu helynt yn gynharach eleni, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod lefelau nicotîn fêp yn uwch o lawer na’r hyn y dylen nhw fod, gan arwain archfarchnadoedd i roi’r gorau i’w gwerthu nhw am gyfnod.

2ml yw’r uchafswm nicotîn cyfreithlon ar gyfer fêp, a 2% yw uchafswm cryfder y nicotîn ddylai fod ynddyn nhw, ond mae llawer iawn 50% yn fwy na’r uchafswm.

Gall nicotîn achosi’r bendro, sy’n gallu bod yn beryglus iawn wrth yrru, ac mae angen i yrwyr fod yn gallu gyrru’n ofalus.

Perygl arall yw’r mwg sy’n codi o’r fêp, all effeithio ar faint mae gyrwyr yn ei weld wrth yrru.

Yn ôl arbenigwyr yn LeaseCar.uk, does dim modd bod yn ddigon gofalus wrth fêpio er mwyn cadw at y gyfraith.

Iechyd a’r gyfraith

Gall gyrwyr nad ydyn nhw’n rheoli cerbyd yn llawn gael dirwy amhenodol, naw pwynt ar eu trwydded a gwaharddiad yn ôl disgresiwn.

Mewn achosion eithriadol, pe bai rhywun yn cael ei anafu neu ei ladd o ganlyniad i yrru’n ddiofal, gallai’r gyrrwr wynebu cyfnod o garchar.

Yn y Deyrnas Unedig, mae’n anghyfreithlon ysmygu gyda rhywun o dan 18 oed, ond dydy hyn ddim yn berthnasol i fêpio.

O ran iechyd, gall fêpio achosi niwed i’r ysgyfaint a’r corff yn gyffredinol, ac mae arbenigwyr yn galw am adolygiad brys i ganfod pam fod y peryglon yn cael eu hanwybyddu ar y cyfan.

“Mae’n fater o amser cyn i ni ddechrau gweld mwy o farwolaethau ar y ffordd gyda’r epidemig fêpio presennol,” meddai Tim Alcock o LeaseCar.uk.

“Fe fu pryder cynyddol tros effeithiau fêpio, ond rydyn ni’n gwybod fod yna lefelau uchel o nicotîn yn y dyfeisiau, sy’n bryder mawr o safbwynt gyrru.

“Mae e-sigaréts sy’n cynnwys nicotîn yn achosi’r bendro, sy’n beryglus dros ben, gan roi’r gyrrwr a defnyddwyr eraill ar y ffyrdd mewn perygl.

“Mae’n warthus fod gyrwyr yn dal yn cael fêpio gyda phlant yn y car o ystyried y peryglon ar unwaith ar y ffyrdd a’r sgil effeithiau meddygol sy’n dal yn destun ymchwil.

“Nid yn unig hynny, ond wrth i bobol ddefnyddio’r dyfeisiau, mae’r cymylau o fwg yn achosi perygl enfawr wrth atal a chyfyngu ar y golwg.

“Rydyn ni’n galw ar y llywodraeth i wneud newidiadau brys i’r troseddau gyrru presennol ac i ystyried pa mor ddifrifol yw fêpio wrth y llyw.”