Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym Maesteg wedi cael arolygiad hanesyddol gan Estyn.
Hon yw’r ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i gwblhau arolygiad heb dderbyn argymhellion ffurfiol, ac maen nhw wedi cael cais i gynhyrchu dwy astudiaeth achos o arfer effeithiol i’w rhannu ag eraill yn y sector.
Cafodd yr arolygiad ei gynnal fis Mawrth eleni, ac mae’r ysgol bellach yn aelod o grŵp dethol o ysgolion sydd wedi derbyn adroddiad o safon mor uchel.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ansawdd yr addysgu yn gyson uchel ar draws yr ysgol, tra hefyd yn canmol y berthynas waith agos a chefnogol rhwng disgyblion ac athrawon.
Mae gan yr ysgol raglen gynhwysfawr o weithgareddau dysgu proffesiynol ar gyfer yr holl staff.
Mae cysylltiad agos rhwng y rhaglen hon, y trefniadau rheoli perfformiad a phrosesau gwella’r ysgol.
Mae’r system rheoli perfformiad staff, sef y ‘Cynllun Datblygu Proffesiynol Parhaus’, yn drylwyr ac yn drefnus.
Mae’r amcanion yn glir, yn cysylltu â blaenoriaethau’r ysgol ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.
Fel rhan o’r gwaith hwn, mae cyfleoedd defnyddiol i staff ar bob lefel arbrofi gyda strategaethau newydd yn seiliedig ar ymchwil.
Mae cyfleoedd rheolaidd i ddathlu a rhannu eu canfyddiadau a’u harferion gorau sydd wedi’u nodi o weithgareddau hunanwerthuso.
Mae’r rhaglen hefyd wedi’i theilwra’n ofalus i ymateb i flaenoriaethau’r ysgol ac anghenion unigol y staff.
Mae’r ysgol wedi llwyddo i greu diwylliant lle mae staff yn awyddus i dderbyn adborth ar eu gwaith ac mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda i ddatblygu yn eu rolau.
Mae’r rhaglen dysgu proffesiynol wedi cael effaith nodedig ar ansawdd yr addysgu, y ddarpariaeth ar gyfer llesiant a sgiliau arwain staff.
Cydweithio dros y Gymraeg
Fel yr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae’r ysgol yn gweithio’n agos ac yn effeithiol gyda’i hysgolion cynradd clwstwr, Menter Bro Ogwr a’r Urdd.
O ganlyniad, mae’r ysgol yn rhoi sylw brwd i ddatblygu ymdeimlad o Gymreictod a hunaniaeth Gymreig ymhlith ei disgyblion mewn ffordd gadarnhaol a chynhwysol.
Mae’r ysgol yn gosod dyheadau uchel ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg disgyblion ac mae’n angerddol yn eu cyfrifoldeb i gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Fel rhan o gwricwlwm cyfoethog ac amrywiol mae’r ysgol wastad wedi cynnig gweithgareddau yn ystod ‘gwers y clwb’ ar brynhawn Gwener dan arweiniad aelodau o’r chweched dosbarth.
Mae’r rhain yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg mewn cyd-destunau naturiol ac anffurfiol gan ddatblygu hyder ac arweinyddiaeth ymhlith myfyrwyr y chweched dosbarth.
Nodwyd bod hyn yn arfer cryf gan Estyn yn ystod eu harolygiad diweddar ynghyd â llu o weithgareddau allgyrsiol sy’n galluogi disgyblion i ddilyn eu diddordebau a datblygu fel dinasyddion gwybodus.
Ar y cyfan, mae disgyblion wir yn mwynhau dod i’r ysgol ac mae lefelau presenoldeb yn nodedig o uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Dysg, dawn, dyfodol
Mae gan yr ysgol weledigaeth glir sydd wedi’i gwreiddio mewn ethos o gydweithredu i sicrhau nad oes rhwystrau i lwyddiant.
Fe wnaeth Estyn gydnabod fod uwch arweinwyr yn llwyddo i feithrin tîm sydd â meddylfryd iach o hunan-wella parhaus, gyda ffocws clir ar addysgu a dysgu.
O ganlyniad, mae staff a disgyblion yn falch o fod yn aelodau o’r gymuned ‘Tîm Llan’.
Cafodd hyn ei gyflawni hyn drwy weithdrefnau atebolrwydd sy’n glir ac yn dryloyw.
Trwy gyfarfodydd rheolaidd, mae rheolwyr llinell yn dwyn arweinwyr canol i gyfrif am eu gwaith yn effeithiol a’u herio a’u cefnogi mewn modd cytbwys.
Mae hyn yn golygu bod trafodaethau’n canolbwyntio’n gadarn ar gynnydd disgyblion ac ansawdd yr addysgu.
Fel ysgol, mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd wastad wedi cydnabod pwysigrwydd cydweithio ag eraill er budd ei dysgwyr.
Gydag ethos gwreiddiol sy’n canolbwyntio ar hunanfyfyrio a gwerthuso, mae’r ysgol wedi bod yn allweddol wrth sefydlu ac arwain cyfleoedd dysgu proffesiynol amrywiol gan gynnwys Cyfleoedd+ (partneriaethau ysgol i ysgol ar draws ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf) a Gyda’n Gilydd (ysgol i ysgol yn gweithio i ddarparu rhaglen wedi’i theilwra o ddysgu proffesiynol yn y Gymraeg).
O ganlyniad, roedd proses arolygu newydd Estyn yn cyd-fynd â sut mae’r ysgol yn gwerthuso eu gwaith a’u cynlluniau ar gyfer gwella.
Roedd defnyddio ystod eang o wybodaeth i fesur effaith y ddarpariaeth ar lesiant a chynnydd disgyblion yn cael ei ystyried yn gryfder nodedig.
‘Arweinydd ysbrydoledig’
Cafodd Meurig Jones, pennaeth yr ysgol, ei enwi’n ‘Bennaeth y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Addysgu Cymraeg diweddaraf, a derbyniodd y wobr arian yng Ngwobrau Addysgu Pearson UK.
Cafodd ei ddisgrifio gan yr arolygwyr fel “arweinydd ysbrydoledig a gwylaidd sy’n uchel ei barch ymhlith y staff a chymuned ehangach yr ysgol”.
“Mae’n anrhydedd fawr i fod yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i gyflawni adroddiad Estyn heb unrhyw argymhellion penodol,” meddai.
“Mae pawb yn yr ysgol yn angerddol iawn am iaith a diwylliant Cymru felly mae’n werth chweil gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad.
“Ni fyddai archwiliad o’r safon hon wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ein staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni/gofalwyr.”