Bydd y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yng Nghymru’n cael eu diogelu o ganlyniad i gynllun trosglwyddo newydd sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, wedi cyhoeddi manylion y Gronfa Drosglwyddo ar gyfer Bysiau mewn datganiad ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chwmnïau bysiau.

Cadarnhaodd y bydd y gronfa’n disodli’r Cynllun Argyfwng ar gyfer y Sector Bysiau, sy’n dod i ben ddiwedd mis Gorffennaf.

“Heddiw rwyf wedi cyhoeddi datganiad gyda phartneriaid y diwydiant ac awdurdodau lleol yn nodi rhagor o wybodaeth am ein cefnogaeth ariannol i’r diwydiant bysiau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon,” meddai Lee Waters.

Osgoi canslo gwasanaethau

O ganlyniad uniongyrchol i’r cyllid hwn, gallwn osgoi canslo nifer fawr o wasanaethau ledled Cymru.

“Bydd yn rhoi cymorth ariannol ar unwaith i gwmnïau bysiau yng Nghymru fel y gall y gwasanaethau hanfodol hynny barhau,” meddai Lee Waters.

“Rydym yn sicrhau bod £46m ar gael o gyllidebau bysiau i gefnogi trefniadau y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau a’r Gronfa Drosglwyddo ar gyfer Bysiau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan.

“Bydd y cyllid hwn hefyd yn cynnal gwasanaethau strategol TrawsCymru.

“Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda Timau Cynllunio y Rhwydwaith Rhanbarthol, a chwmnïau, i gynllunio a chostio rhwydwaith o wasanaethau bysiau y gellir eu darparu pan ddaw’r cyllid brys i ben.

“Bydd y cyllid fydd ar gael yn sicrhau y bydd rhan fwyaf y gwasanaethau presennol yn cael eu diogelu ledled Cymru er y gallai rhai gwasanaethau newid i adlewyrchu patrymau teithio gwahanol yn dilyn y pandemig.”

Dadansoddiad manwl o’r rhwydwaith

Mae Timau Cynllunio y Rhwydwaith Rhanbarthol yn parhau â’u dadansoddiad manwl o’r rhwydwaith bysiau fydd yn cael ei ddarparu drwy’r Gronfa Drawsnewid ar gyfer Bysiau.

“Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud ar fyrder fel bod unrhyw newidiadau posibl i’r rhwydwaith yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi gyda cymaint o rybudd â phosibl,” meddai Lee Waters.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i ddatblygu model ariannu cynaliadwy tymor hwy sy’n pontio’r bwlch i fasnachfreinio.”

Dywed y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod “gwaith caled iawn wedi ei wneud ar y cyd gan gynghorau a chwmnïau, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i ddiogelu cymaint o wasanaethau bysiau â phosibl tra bod nifer y teithwyr yn cynyddu”.

“Mae’r sefyllfa ariannol wedi bod yn arbennig o heriol oherwydd y cynnydd enfawr mewn costau a’r gostyngiad yn nifer y teithwyr,” meddai.

“Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn croesawu cyllid Llywodraeth Cymru, ond mae’n cydnabod na allwn amddiffyn pob llwybr.

“Bydd y Gronfa Trosglwyddo ar gyfer Bysiau yn ein galluogi i symud i ffwrdd yn raddol o gyllid brys yn ôl at gymysgedd o wasanaethau masnachol ac â chymorth.

“Hoffwn ddiolch i bawb fu’n gweithio i ddod o hyd i ffordd ymlaen a bydd yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i ddefnyddio’r bysiau fel ein bod yn cadw cymaint o wasanaethau â phosibl.”

‘Newyddion da i deithwyr’

Yn ôl Aaron Hill, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, mae’r Gronfa Trosglwyddo ar gyfer Bysiau’n “newyddion da i deithwyr bysiau ledled Cymru”.

Bydd yn “rhoi mwy o sicrwydd iddynt ynghylch teithio i’r gwaith, i’r ysgol ac i weld ffrindiau a theulu”, meddai.

“Mae cwmnïau wedi gweithio’n galed gyda chydweithwyr o fewn yr awdurdodau lleol dros y misoedd diwethaf i nodi’r llwybrau oedd angen cymorth, addasu’r rhwydwaith i batrymau teithio newydd, a diogelu’r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl Cymru.

“Byddwn bellach yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol i ddatblygu gwasanaethau ac annog pobl i fynd yn ôl ar y bysiau.”

Mae Cymdeithas Bysiau Cymru hefyd wedi croesawu’r “dull partneriaeth” sydd wedi’i fabwysiadu “i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn parhau i dderbyn y gwasanaethau bysiau y maent yn dibynnu arnynt yn ddyddiol”.