Yn ôl Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg deg ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Cododd hi fater diffyg cydraddoldeb mewn cyfleoedd addysg yn y Senedd yr wythnos hon.
Daeth ei sylwadau yn ystod dadl ddoe (dydd Mercher, Mehefin 14) ynglŷn â chefnogaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, wrth i’r Llywodraeth Lafur gytuno i adolygu’r polisi.
“Mae yna bryder mawr y bydd llawer o blant yn colli allan ar y cymorth sydd ei angen arnynt drwy beidio â chael eu hadnabod, felly rwy’n falch bod y Llywodraeth Lafur wedi cytuno i’r adolygiad hwn o’u polisi,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd Addysg y Ceidwadwyr Cymreig.
‘Dim cydraddoldeb i’r Gymraeg’
Fodd bynnag, mae Heledd Fychan wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n bryderus nad yw’r un cyfleoedd addysg ar gael yn y Gymraeg ar gyfer plant a phobol ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Daw hyn yn dilyn adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r Comisiynydd Plant fis Mai oedd yn amlinellu bod problem o ran diwallu anghenion y disgyblion hyn.
“Mae angen sicrhau bod staff efo arbenigedd er mwyn gwneud asesiadau, a bod yr asesiadau hyn ar gael yn y Gymraeg,” meddai Heledd Fychan.
“Rydyn ni’n gwybod, hyd yn oed efo’r rhai sydd wedi cael diagnosis, fod yr hyn sy’n cael ei ddarparu ddim yn ddigonol.
“Felly, beth rydyn ni’n ei weld ydi argyfwng go iawn ar y funud fod hawliau plant i gael y gefnogaeth angenrheidiol yn eu hiaith ddewisol ddim yn rhywbeth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu.”
‘Loteri Côd Post’
Er bod darpariaeth ar gael mewn rhai mannau o Gymru, dywed Heledd Fychan fod ardaloedd eraill yn cael eu gadael ar ôl.
“Yr hyn sy’n fy mhryderu i ydi ei fod o’n loteri côd post ar y funud o ran y gefnogaeth sydd ar gael,” meddai.
“Mae yna rieni sy’n gorfod un ai anfon eu plant i ysgolion Saesneg neu sydd wedi newid iaith yr aelwyd gan fod y gefnogaeth ddim ar gael i’w plant yn y Gymraeg.
“Dim ots lle yng Nghymru ydych chi, mi ddylech chi allu cael mynediad i system addysg yn y Gymraeg neu Saesneg sy’n mynd i gefnogi datblygiad plentyn neu berson ifanc.”
Yn ôl Heledd Fychan, mae Rhondda Cynon Taf, lle buodd hi’n gynghorydd, yn un o’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf.
“Rydw i’n cael nifer fawr, fawr o gwynion o ran Cyngor lleol Rhondda Cynon Taf, fod y ddarpariaeth ddim yn ddigonol,” meddai.
“Rydw i wedi cael amryw o rieni yn cysylltu gyda fi yn dweud eu bod nhw’n gorfod edrych ar symud i Gaerdydd neu ardaloedd eraill oherwydd eu bod nhw eisiau cadw iaith y cartref yn Gymraeg.
Digon o alw?
Dywed Heledd Fychan fod yr awdurdodau lleol wedi honni nad oes digon o alw am ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Gymraeg.
“Os does dim darpariaeth, mae’n anodd iawn gweld faint o alw neu ddefnydd sydd o rywbeth sydd ddim yn bodoli,” meddai .
“Dydy mynediad cydradd i addysg Gymraeg ddim yn bodoli ledled Cymru ar y funud.
“Os ydach chi’n gallu cerdded i ysgol Saesneg ond yn gorfod teithio milltiroedd i ysgol Gymraeg ar fws, neu ddau fws, ydi hynny’n gydradd?
“Mae’n rhaid i ni weld beth ydi’r methiannau yn y system oherwydd, ar ddiwedd y dydd, dyfodol plant a phobol ifanc sy’n cael ei effeithio gan hyn ac mae problem benodol gyda chyfrwng Cymraeg.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.