Mae Cyngor Caerffili yn cynnig dod â dwy ysgol yng Nghwm Rhymni o dan un to – cynllun fyddai’n costio £17.6m.

Mae’r cynigion yn cynnwys adeilad amlbwrpas “modern a chynaladwy” fel cartref i Ysgol y Lawnt – ysgol gynradd Gymraeg – ac ysgol gynradd Saesneg Rhymni Uchaf.

Er y byddai’n gosod y ddwy ysgol o fewn yr un adeilad, mae’r Cyngor yn dweud y byddan nhw’n cynnal “hunaniaeth ar wahân”.

Bydd disgyblion oedran meithrin hyd at 18 oed yn mynd i’r ysgol fawr, ac mae adroddiad y Cyngor hefyd yn ychwanegu y bydd yr adeilad ar gael at ddefnydd y gymuned.

Bydd y Cyngor yn cyfrannu £6,052,119 o arian wrth gefn, a’u nod yw sicrhau’r £10,730,414 sy’n weddill drwy raglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer addysg.

Does dim cais cynllunio ffurfiol wedi’i gyflwyno ar gyfer y datblygiad eto.

Bydd gofyn i aelodau gefnogi cynigion y Cyngor yng nghyfarfod y pwyllgor craffu addysg ddydd Mawrth (Mehefin 20).

‘Y bennod gyffrous nesaf’

“Y cynnig hwn yw’r bennod gyffrous nesaf yn ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer addysg, sydd eisoes wedi dod â buddiannau sylweddol ledled y bwrdeistref sirol,” meddai’r Cynghorydd Carol Andrews, yr Aelod Cabinet ar gyfer addysg.

“Dw i’n siŵr y bydd trigolion Cwm Rhymni Uchaf yn croesawu’r cynigion dewr hyn i ddarparu amgylchfyd addysg sy’n addas at y pwrpas ar gyfer pobol ifanc a defnydd ehangach y gymuned yn y dyfodol.”