Mae ymateb cymysg wedi bod i lun o’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn gwisgo bathodyn yn dweud ei fod “erioed wedi cusanu Tori” gael ei rannu.
Cafodd y llun ei rannu ar dudalen Instagram swyddogol Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 15), gyda’r pennawd “Pwy arall sy’n edrych ymlaen at Pride Cymru dydd Sadwrn?”
Mae rhai o’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i’r llun, gan ei alw’n “sarhaus” a dweud eu bod “wedi siomi’n fawr”.
Un o’r rhain yw Altaf Hussain, llefarydd cydraddoldeb y blaid.
“Rwy’n siomedig iawn bod y Prif Weinidog wedi ystyried ei fod yn addas i wleidyddoli Pride Cymru drwy wisgo bathodyn cwbl sarhaus.
“Mae Pride yn atgoffa pobol o ba mor bell rydyn ni wedi dod i sicrhau y gall pobol fod yn nhw eu hunain.
“Dylai digwyddiadau balchder anelu at rymuso’r gymuned LHDTC+, nid ceisio cywilyddio rhai aelodau.
“Rwy’n mawr obeithio y bydd y Prif Weinidog yn ymddiheuro am y tramgwydd mae wedi ei achosi,” meddai.
Ymatebion Cymysg
Mae’r cyhoedd wedi bod yn ymateb i’r llun ar gyfryngau cymdeithasol, gyda safbwyntiau cymysg yn cael eu mynegi ar Twitter.
Mae rhai wedi dweud nad ydyn nhw’n gweld unrhyw beth o’i le â defnyddio’r slogan, ac wedi cymeradwyo’r gwaith mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o fewn y gymuned LHDTC+.
“Pwy mae hyn yn ei dramgwyddo a sut? Os ydy o’n wir, beth yw’r broblem? Mae’n debyg Nad oes gan @WelshConserv dim byd gwell i’w wneud na chwyno!” meddai Anthony Evans.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru a’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn sefyll dros y gymuned LHDCT+ yn wyneb traws ffobia gan y Ceidwadwyr Cymreig. Os nad yw Mark wedi cusanu Tori, mae hynny’n beth da!” meddai’r defnyddiwr @CymruAce.
Awgrymodd un defnyddiwr efallai y dylai’r blaid ystyried cael gwared ar y bathodyn er mwyn osgoi ymatebion chwyrn.
“Ar un llaw, rwy’n meddwl y dylai llafur gael gwared â’r bathodyn fel nad ydym yn cael y ddrama yma bob ychydig fisoedd, ond ar y llaw arall, rwy’n falch nad ydynt wedi gwneud hynny er mwyn i mi allu gweld Torïaid yn cwyno oherwydd nad yw Mark Drakeford wedi eu cusanu nhw,” meddai @LiLeiLou.
Fodd bynnag, mae eraill wedi dweud bod hyn yn enghraifft o wleidyddiaeth yn troi’n chwerw, ac y dylai pleidiau ddangos mwy o barch at ei gilydd.
“Mae hyn yn wleidyddiaeth ffiaidd nawr! Dylid gorfodi iddynt ymddiswyddo, os na allant barchu ei gilydd pam y byddent yn trafferthu parchu ni,” meddai defnyddiwr o’r enw Jimmy.
“Pam bod y bobl hyn yn meddwl bod y math hwn o slogan yn addas? Dw i’n deall bod gan rhai aelodau o’r cyhoedd eu sloganau casineb Ceidwadol ac ati, ond gwleidydd?? Ydyn nhw i gyd wedi colli eu meddyliau?” meddai @beaglesrockyes.
Llywodraeth yn gwrthod ymateb
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn dweud na fyddan nhw’n ymateb i’r mater, wedi i’r Ceidwadwyr Cymreig alw ar y Prif Weinidog i ymddiheuro.
Bydd Pride Cymru’n digwydd yng Nghastell Caerdydd dros y penwythnos (Mehefin 17 a 18).
Yn ôl Pride Cymru, maen nhw’n ymroddedig i waredu gwahaniaethu yn sgil rhywedd, rhyw, crefydd a hil.
“Rydym yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniadau a wneir gan bobl LHDT+ mewn cymdeithas ac rydym yn parhau â’n gwaith i greu cyfleoedd i bobl LHDT+ ledled Cymru gysylltu â chefnogi ei gilydd,” meddai llefarydd.
“Mae Pride Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar y gymuned LHDT+ gan ein bod am i’n cymdeithas fod yn rhydd rhag troseddau casineb, gwahaniaethu a rhagfarn.”