Mae plismon gyda Heddlu Gwent yn destun ymchwiliad camymddwyn yn dilyn gwrthdrawiad yn Llaneirwg ym mis Mawrth, pan fu farw tri o bobol.
Fe wnaeth yr heddlu gyfeirio’u hunain yn dilyn y digwyddiad, ar ôl i Darcy Ross (21), Eve Smith (21) a Rafel Jeanne (24) farw yn y digwyddiad ddechrau mis Mawrth.
Cafwyd hyd i’r tri ar Fawrth 6, bron 48 awr ar ôl iddyn nhw gael eu gweld ddiwethaf ac i’w teuluoedd adrodd eu bod nhw ar goll.
Mae Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ystyried a oedd eu hoedran wedi effeithio ar ymateb yr heddlu i’r achos, ar ôl i’w ffrindiau ddweud eu bod nhw wedi dod o hyd i’r tri cyn yr heddlu.
Mae’r hysbysiad sydd wedi’i roi i’r plismon yn cael ei roi ar ddechrau ymchwiliad ac yn rhoi gwybod eu bod nhw’n destun monitro parhaus ond nad oes rheidrwydd y bydd camau disgyblu yn y pen draw.
Beth yw natur yr ymchwiliad?
Mae’r ymchwiliad yn ystyried ymateb plismyn a staff yr ystafell reoli, ac unrhyw benderfyniadau gafodd eu gwneud wrth ymateb i adroddiadau bod pobol ar goll, hyd at ddod o hyd i’r cerbyd.
Bydd hefyd yn ystyried a oedd asesiad risg o’r adroddiadau bod pobol ar goll, a gawson nhw eu hadolygu ac a oedd adnoddau digonol ar gael; a oedd ymateb yr heddlu’n cyd-fynd â rheoliadau lleol a chenedlaethol cyfoes; a’r cyswllt rhwng yr heddlu a theuluoedd y rhai fu farw ac a gafodd eu hanafu cyn dod o hyd i’r cerbyd.
Bydd yr ymchwiliad hefyd yn penderfynu a wnaeth ymateb yr heddlu gyfrannu at farwolaethau ac anafiadau’r bobol oedd ar goll.
Bydd yr ymchwiliad yn casglu datganiadau gan blismyn yn y fan a’r lle, y rhai oedd wedi ymdrin â’r adroddiadau bod pobol ar goll, staff yr ystafell reoli, a phlismyn oedd yn gyfrifol am asesiadau risg.
Bydd y cyfathrebu rhwng plismyn mewn perthynas â’r achos hefyd yn rhan o’r ymchwiliad, ynghyd â lluniau camerâu cylch-cyfyng sawl gorsaf heddlu.
Bydd sylw’n cael ei roi hefyd i hofrennydd yr heddlu oedd yn chwilio am y rhai oedd ar goll.
Dywed yr heddlu y byddan nhw’n parhau i gydweithio â’r ymchwiliad.