Roedd Boris Johnson “yn gwybod beth oedd e’n ei wneud drwy’r amser”, yn ôl Chris Bryant.

Daw sylwadau Aelod Seneddol Llafur y Rhondda mewn colofn i’r Daily Mirror, sy’n ymateb i gasgliadau adroddiad ynghylch ymddygiad cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a’r digwyddiadau gafodd eu cynnal yn Downing Street a’r modd y gwnaeth e gamarwain y senedd.

Dywed Chris Bryant fod yr adroddiad “mor fanwl fel ei fod yn teimlo fel llawdriniaeth twll clo i dorri’r canser allan”, a’i fod “yn profi” bod Boris Johnson wedi dweud celwydd yn San Steffan “mewn o leiaf 14 o ffyrdd”.

Nid “camgymeriad” na “cham-siarad” wnaeth e, meddai, a doedd e ddim “yn ddiofal gyda’r gwirionedd”, ond ei fod e “yn wybodus ac yn fwriadol wedi camarwain y senedd”.

“Roedd e’n gwybod beth oedd e’n ei wneud drwy’r amser,” meddai.

“Ac am hynny, yn gywir iawn maen nhw wedi ei gondemnio fe’n agored.”

Gwaharddiad a beirniadu’r pwyllgor

Yn ôl Chris Bryant, byddai Boris Johnson wedi gallu cael ei wahardd am 90 diwrnod pe na bai “wedi ofni wynebu’r canlyniadau yn y senedd ac yn ei etholaeth”.

Daw hyn ar ôl i’r cyn-Brif Weinidog gyhoeddi ei fod yn gadael San Steffan ac yn ymddiswyddo o fod yn aelod seneddol.

Dywed yr aelod seneddol Llafur y bydd “yn cael ei gofio gan hanes fel prif gelwyddgi”, ac mae wedi “ffrwydro â llif sylweddol o nonsens annealladwy, fel llosgfynydd yn tasgu lafa”.

Mae’n ei gymharu â Donald Trump gyda “mwy o gelwyddau, mwy o osgoi, mwy o wrthod derbyn cyfrifoldeb”.

Ac er bod Boris Johnson yn beirniadu casgliadau’r pwyllgor, roedd e’n gyfrifol am benodi’r aelodau, medd Chris Bryant, ond “y gwir amdani” yw ei fod e wedi dweud celwydd, meddai, gan ychwanegu y dylai pob aelod o’r pwyllgor “dderbyn medal”.

“Maen nhw wedi dioddef ymosodiadau a beirniadaeth, ond fe wnaethon nhw ddilyn y dystiolaeth a chadw at eu greddf,” meddai.

“Maen nhw wedi gosod y safon i’r holl aelodau seneddol hefyd.”

Dirmyg

Dywed Chris Bryant fod “dweud celwydd wrth y senedd yn dirmygu’r holl broses ddemocrataidd”.

Ychwanega y dylai Boris Johnson fod wedi “cywiro’r cofnod” yn ddiweddarach os oedd camgymeriadau wedi digwydd.

Dywed ei fod yn gobeithio y bydd pob aelod seneddol yn cymeradwyo’r adroddiad mewn pleidlais yr wythnos nesaf “gan gynnwys pob aelod o’r llywodraeth”, ac y byddai unrhyw un sy’n ymatal rhag pleidleisio’n “rhoi pàs ar gyfer dweud celwydd”.

Mae hefyd yn galw ar Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, i’w “daflu allan o’r Blaid Geidwadol” ond yn dweud na fydd e “mor ddewr” â hynny.

“Wedi’r cyfan, pam wnaeth e adael i restr anrhydeddau ymddiswyddiad Johnson i fynd rhagddi pan oedd e’n gwybod fod yr adroddiad hwn yn dod?

“Pam nad yw’n ei chanslo nawr? Mae’n llawn rhai o’r bobol leiaf anrhydeddus yng ngwleidyddiaeth Prydain.”

Dylai golli ei gyflog oes o £115,000 y flwyddyn am fod yn gyn-Brif Weinidog hefyd, meddai.

Cydymdeimlo?

“Weithiau, dw i’n teimlo’n flin dros Johnson,” meddai wedyn.

“Mae e fel plentyn ar goll.

“Ac mae e wedi tynnu’r cyfan ar ei ben ei hun.

“Fe wnaeth e daflu ei gyfle i ffwrdd.

“Ond wedyn, dw i’n cofio’r bobol gollodd eu bywoliaeth oherwydd iddyn nhw gadw at y rheolau yn ystod y cyfnodau clo, a’r bobol oedd yn methu dal dwylo’u hanwyliaid hyd yn oed wrth iddyn nhw farw mewn cartref gofal.

“Dyna pryd dw i’n meddwl y bydd cyfiawnder.

“A gwynt teg…”