Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, ymysg y rheiny sy’n galw am gyhoeddi adroddiad allai gynnwys tystiolaeth o ymddygiad troseddol gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Dydy’r adroddiad llawn ddim yn gyhoeddus ar hyn o bryd, ond mae’r cyfrifwyr fforensig EY wedi bod yn edrych ar gyfrifon y bwrdd iechyd, gan ddweud bod miliynau o bunnoedd wedi’u cyfrifo’n anghywir.
Yn ôl yr adroddiad, mae swyddogion cyllid wedi bod yn rhoi symiau anghywir i mewn i’w cyfrifon personol yn fwriadol hefyd.
Mae cais Rhyddid Gwybodaeth i gyhoeddi’r adroddiad llawn wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth Cymru.
‘Rhaid dilyn y broses gywir’
“Fy nealltwriaeth i yw bod yr unigolion allweddol a enwir yn yr adroddiad hwn wedi’u hatal, ac, yn amlwg, mae ganddynt hawliau cyflogaeth gyfreithiol,” meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.
“Y peth allweddol i mi yw fod yn rhaid i ni ddilyn y broses gywir fel nad yw unrhyw system sydd angen ei dilyn yn cael ei thanseilio.
“Gallaf sicrhau, o’r adroddiad, fod Llywodraeth Cymru wedi’i diarddel, nad oedd unrhyw awgrym bod Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig â hyn mewn unrhyw ffordd.
“Ond rwy’ wedi gofyn i’m cyfarwyddwr cyffredinol wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar yr adroddiad i weld pa gamau, os o gwbl, sydd angen i ni eu cymryd fel llywodraeth os oes unrhyw oblygiadau ehangach i ni fel llywodraeth.”
Roedd yn rhaid i Eluned Morgan ymddiheuro ar ôl dweud bod yr adroddiad wedi’i lunio yn seiliedig ar gyngor gan y Llywodraeth, wedi i uwch swyddogion yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddweud nad oedd hynny’n wir.
Cychwynnodd yr ymchwiliad fis Medi y llynedd, ar ôl i Archwilio Cymru ddarganfod “camgymeriadau sylweddol” yng nghyfrifon y bwrdd iechyd rhwng 2021 a 2022.
‘Diwylliant ehangach’
Un arall sy’n galw am gyhoeddi’r adroddiad llawn yw Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru.
Dywed fod tryloywder “yn hanfodol os yw pobol am ymddiried yn ymdrechion y llywodraeth i roi trefn ar wasanaethau iechyd yn y gogledd”.
Yn ôl Darren Millar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r arferion amhroffesiynol yn mynd “tu hwnt i’r bwrdd iechyd ei hun”.
“Mae pedwar mis ers i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi [yn rhannol],” meddai.
“Ni allaf amau pam, yn y cyfnod hwnnw o bedwar mis, nad yw’r unigolion hynny a oedd yn gyfrifol am y camau hyn wedi cael eu diswyddo o’r bwrdd iechyd hwnnw.
“Nawr, dw i ddim yn gwybod a yw’r unigolion hyn yn dal yn eu swyddi neu’n destun ymchwiliad, ond dydy hyn ddim yn ymwneud â Betsi yn unig; mae hyn yn ymwneud â’r diwylliant yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ehangach.”
‘Ceisio cyngor cyfreithiol’
Dywed cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn ymchwilio i sut y gallan nhw gyhoeddi’r adroddiad i’r cyhoedd.
“Rydym yn ceisio cyngor cyfreithiol ynglŷn â’n gallu i rannu’r adroddiad, ac yn dymuno gwneud popeth sy’n bosibl i gydweithio â phartïon â diddordeb er mwyn bod yn agored,” meddai.
“Wrth ymdrin â materion mor sensitif, mae’n bwysig ein bod yn taro cydbwysedd priodol rhwng tryloywder a’r ddyletswydd o ofal sydd gennym i’n staff.”